Zazen

Mae Zazen (坐禅; Tseineg "zuochan" [Pinyin] neu tso-chan [Wade-Giles]) yn rhan hanfodol o Fwdhaeth Zen. Nod zazen yw eistedd ac agor "llaw'r meddwl".

Zazen: sut i eistedd

Yn eistedd zazen gyda'n llygaid wedi eu canoli ar y llawr pren caled, mae'r caboledd yn adlewyrchu'r eira sy'n syrthio tu allan i'r ffenest. Gwyliwn ein hanadl yn mynd trwy ein corff. Yr ydym yn ymwybodol o'r foment bresennol.

Eisteddir ar draean blaen cadair neu glustog.

Trefnir y coesau mewn ystum y gellir ei gynnal yn gyfforddus. Yn yr ystum hanner-alaw'r dŵr, gosodir y coes chwith ar y morddwyd dde (neu vice versa). Yn yr ystum alaw'r dŵr (llawn), gosodir y traed ar y morddwydydd cyferbyniol. Yn yr ystum Myanmar, torchir y traed gyda'i gilydd yn agos i'r afl. Gellir hefyd eistedd yn syml gyda'r coesau wedi eu torchi yn agos i'r corff, ond rhaid sicrhau fod y pwysau'n cael eu dosbarthu'n gyfartal ar dri phwynt: y ddau ben-glin ar y llawr a'r ffolennau ar y glustog gron. Ar gadair, cedwir y pen-gliniau wedi eu neilltuo tua'r un lled â'r ysgwyddau, gyda'r traed wedi eu plannu'n sad ar y llawr.

Eisteddir yn gefnsyth ond heb fod yn anystwyth. Ymestynir asgwrn y cefn a'i sythu, gan ei gadw'n uniawn naturiol a chanoli'r cydbwysedd yn yr abdomen isaf. Brest yn ôl, stumog i mewn. Dychmygir llinell seth trwy'r trwyn i'r bogail. Gellir gwegian y corff yn ysgafn o'r chwith i'r dde nes cyrraedd yn naturiol pwynt llonyddwch ar y glustog. Rhaid tynhau'r hara, sef y rhan o'r bol dwy fodfedd dan y bogail.

Rhaid edrych ar y llawr tua thair i bedair troedfedd o flaen y corff, gyda'r llygaid nac yn lled agored nac ar gau.

Gosodir y ddwylo ar arffed gydag un ohonynt yn gledr-i-fyny a'r llaw arall (cledr-i-fyny) yn gorwedd ar y llaw isaf, gyfa phennau'r bodiau'n cyffwrdd ag ei gilydd (yn ysgafn) a ffurfio hirgylch llorwedd (gweler y llun uchod). Dyma mudra zazen, lle mae popeth yn cael ei uno. Rhoddir ochrau'r bysedd bach yn erbyn yr abdomen, rhai modfeddi islaw'r bogail i gydgordio canol y cydbwysedd gyda'r mudra. Rhoddir y canolbwyntiad yno, neu ar y talcen rhwng y llygaid os deuir cysgadrwydd.

En otros idiomas
العربية: زازين
български: Дзадзен
català: Zazen
čeština: Zazen
Deutsch: Zazen
English: Zazen
español: Zazen
euskara: Zazen
فارسی: ذاذن
suomi: Zazen
français: Zazen
magyar: Zazen
Bahasa Indonesia: Zazen
italiano: Zazen
日本語: 坐禅
한국어: 좌선
Lingua Franca Nova: Zazen
македонски: Зазен
Nederlands: Zazen
polski: Zazen
português: Zazen
română: Zazen
русский: Дзадзэн
srpskohrvatski / српскохрватски: Zazen
Simple English: Zazen
slovenčina: Zazen
српски / srpski: Зазен
svenska: Zazen
Türkçe: Zazen
українська: Дзадзен
Tiếng Việt: Tọa thiền
中文: 禪坐