Y Rhyfel Byd Cyntaf

Milwyr

Dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 a daeth i ben yn 1918. Dyma'r tro cyntaf y defnyddiwyd arfau cemegol a'r tro cyntaf y gollyngwyd bomiau o awyrennau. Y ddwy ochr a ymladdai oedd y Pwerau Canolog (Ymerodraeth yr Almaen, Awstria-Hwngari, Ymerodraeth yr Otomaniaid a Ymerodraeth Bwlgaria ar y naill law a'r Cynghreiriaid (neu'r Pwerau Entente) ar y llall: Ffrainc, yr Ymerodraeth Brydeinig, Ymerodraeth Rwsia, Brenhiniaeth Serbia, Montenegro, Japan, yr Eidal (1915–18), Portiwgal (1916–18), Romania (1916–18), Teyrnas Hijaz (1916–18), Unol Daleithiau America (1917–18), Gwlad Groeg (1917–18) a Siam (1917–18).

Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfnod o newidiau mawr, gan roi terfyn ar yr hen drefn a pharatoi'r ffordd i'r drefn newydd. Dyma gyfnod cwymp teuluoedd fel yr Habsburg, y Romanov, a'r Hohenzollern a oedd wedi bod mor ddylanwadol yng ngwleidyddiaeth Ewrop gyda'u gwreiddiau yn mynd yn ôl i ddyddiau y croesgadau.

Achosodd y rhyfel hon yr Ail Ryfel Byd yn ogystal a Chomiwnyddiaeth a'r Rhyfel Oer ac felly roedd yn ddylanwad sylweddol ar fywyd yr ugeinfed ganrif. Oherwydd y rhyfel daeth cyfnod absoliwtiaeth Ewrop i ben a chafwyd Chwyldro Rwsia. Cwymp yr Almaen (heb ddatrys problemau'r wlad) oedd achos Natsïaeth a dechrau yr Ail Ryfel Byd ym 1939.

Dyma'r rhyfel modern cyntaf i ddibynnu ar dechnoleg arfau a lledaenu dychryn rhwng pobl cyffredin nad oeddent yn filwyr.

En otros idiomas
Alemannisch: Erster Weltkrieg
žemaitėška: Pėrma svieta vaina
беларуская (тарашкевіца)‎: Першая сусьветная вайна
qırımtatarca: Birinci Cian cenki
emiliàn e rumagnòl: Prémma guèra mundièl
English: World War I
Esperanto: Unua mondmilito
estremeñu: I Guerra Mundial
Nordfriisk: Iarst Wäältkrich
Gàidhlig: An Cogadh Mòr
客家語/Hak-kâ-ngî: Thi-yit-chhṳ Sṳ-kie Thai-chan
Fiji Hindi: World War I
Bahasa Indonesia: Perang Dunia I
Patois: Wol Waar I
Basa Jawa: Perang Donya I
къарачай-малкъар: Биринчи дуния къазауат
Lëtzebuergesch: Éischte Weltkrich
Bahasa Melayu: Perang Dunia Pertama
မြန်မာဘာသာ: ပထမ ကမ္ဘာစစ်
مازِرونی: جهونی جنگ اول
Dorerin Naoero: Eaket Eb I
Plattdüütsch: Eerste Weltkrieg
Nedersaksies: Eerste Wealdkrieg
नेपाल भाषा: तःहताः १
norsk nynorsk: Den fyrste verdskrigen
srpskohrvatski / српскохрватски: Prvi svjetski rat
Simple English: World War I
slovenščina: Prva svetovna vojna
Soomaaliga: Dagaalkii koowaad
српски / srpski: Први светски рат
Basa Sunda: Perang Dunya I
Türkmençe: Birinji jahan urşy
ئۇيغۇرچە / Uyghurche: بىرىنچى دۇنيا ئۇرۇشى
oʻzbekcha/ўзбекча: Birinchi jahon urushi
vepsän kel’: Ezmäine mail'man voin
Volapük: Volakrig balid