Xhosa (pobl)

Nelson Mandela, yr enwocaf o'r Xhosa

Grŵp ethnig yn Ne Affrica yw'r Xhosa, Xosa, AmaXhosa neu Ama-Xosa. Ceir y rhan fwyaf ohonynt yn ne-ddwyrain y wlad, er bod poblogaeth sylweddol mewn rhannau eraill hefyd. Maent yn siarad iaith Xhosa neu isiXhosa, sy'n aelod o deulu'r ieithoedd Bantu. Fe'n rhennir yn nifer o is-raniadau, y Bhaca, Bomvana, Mfengu, Mpondo, Mpondomise, Xesibe, a'r Thembu. Mae Nelson Mandela, yr enwocaf o'r Xhosa, yn aelod o'r Thembu.

Ceir tua 8 miliwn o'r Xhosa i gyd, a'r iaith Xhosa yw'r ail iaith fwyaf cyffredin fel mamiaith yn Ne Affica, ar ôl Swlw, sy'n perthyn yn agos iddi. Ymddengys i'r Xhosa symud i mewn i'r tiroedd sy'n awr yn Dde Affrica o'r gogledd. Bu cyfres o ryfeloedd rhyngddynt hwy a'r Ymerodraeth Brydeinig yn rhan gyntaf y 19g.

  • xhosa enwog

Xhosa enwog

En otros idiomas
Afrikaans: Xhosas
العربية: كوسيون
беларуская: Коса
български: Кхоса
brezhoneg: Xhosa (pobl)
català: Xoses
čeština: Xhosové
dansk: Xhosa
Deutsch: Xhosa (Volk)
Ελληνικά: Κόσα
English: Xhosa people
Esperanto: Kosoj
español: Xhosa
euskara: Xhosa
suomi: Xhosat
français: Xhosa (peuple)
galego: Pobo xosa
hrvatski: Xhosa
italiano: Xhosa
日本語: コサ人
한국어: 코사족
лакку: Коса
latviešu: Kosi
кырык мары: Косавлӓ
Nederlands: Xhosa (volk)
norsk nynorsk: Xhosaer
norsk: Xhosa
polski: Xhosa
português: Xhosa
русский: Коса (народ)
Scots: Xhosa fowk
srpskohrvatski / српскохрватски: Xhosa
Simple English: Xhosa people
svenska: Xhosa (folk)
Kiswahili: Waxhosa
українська: Коса (народ)
isiXhosa: AmaXhosa
中文: 科沙人