Unol Daleithiau America

United States of America
Unol Daleithiau America
Baner yr Unol Daleithiau Sêl Fawr yr Unol Daleithiau
Baner Sêl Fawr
Arwyddair: E Pluribus Unum (traddodiadol)
In God We Trust (swyddogol, ers 1956)
Anthem: The Star-Spangled Banner
Lleoliad yr Unol Daleithiau
Prifddinas Washington, D.C.
Dinas fwyaf Dinas Efrog Newydd
Iaith / Ieithoedd swyddogol Dim ar lefel ffederal;
Saesneg (de facto)
Llywodraeth Gweriniaeth Ffederal
- Arlywydd Donald Trump
- Is-arlywydd Mike Pence
Annibyniaeth
- Datganwyd
- Adnabwyd
O Brydain Fawr
4 Gorffennaf 1776
3 Medi, 1783
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
9,631,420 km² ( 3ydd1)
4.87
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2013
 - Cyfrifiad 2010
 - Dwysedd
 
316,544,000 ( 3ydd)
308,745,538
33/km² ( 178fed)
CMC ( PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2012
$16.768 triliwn ( 1af)
$53,001 ( 9fed)
Indecs Datblygiad Dynol ( 2013) 0.914 ( 5ed) – uchel
Arian cyfred Doler yr Unol Daleithiau ( USD)
Cylchfa amser
 - Haf
( UTC-5 i -10)
( UTC-4 i -10)
Côd ISO y wlad .us (hefyd .gov .edu .mil .um)
Côd ffôn +1
1 Dadlir safle arwynebedd gyda China ac weithiau rhoddir ei safle yn 3ydd neu'n 4ydd.

Gweriniaeth ffederal yng Ngogledd America yw Unol Daleithiau America ( Saesneg: United States of America) neu'r Unol Daleithiau (hefyd, yn enwedig ar lafar, "America"). Mae hanner cant o daleithiau yn yr undeb. Lleolir y 48 talaith gyfagos rhwng Canada i'r gogledd a Mecsico i'r de. Lleolir Alaska yng ngogledd-orllewin y cyfandir i'r gorllewin o Ganada. Ynysfor yng nghanol y Cefnfor Tawel yw'r dalaith arall, sef Hawaii.

Hanes

Cyn glaniad yr Ewropeiaid cyntaf roedd y diriogaeth gyfandirol yn gartref i sawl llwyth o Americanwyr brodorol, e.e y Sioux a'r Navajo.

Roedd y 13 talaith wreiddiol yn wladfeydd Prydeinig hyd yr 1700au cyn iddynt ennill eu hannibyniaeth yn sgil Gwrthryfel America ( 1776- 1783).

Bryd hynny, roedd Florida a thiriogaethau eraill yn y de a'r de-orllewin ( Texas, California, Arizona a.y.y.b.) yn perthyn i Sbaen; roedd rhan sylweddol o'r tir yng nghanol y cyfandir i'r gorllewin o Afon Mississippi hyd at ffin Canada yn perthyn i Ffrainc, ac roedd Alaska yn perthyn i Rwsia. Yn 1803 prynodd yr Unol Daleithiau y tir Ffrengig am 60 miliwn o ffranciau, neu tua 15 miliwn o ddoleri ( Pryniant Louisiana) a dwblodd hynny faint y wlad. Yn 1836 cafodd Texas annibyniaeth oddi wrth Mecsico ac ar ôl naw mlynedd fel Gweriniaeth Texas ymunodd y dalaith â'r undeb. Ar ôl y rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico, roddodd Cytundeb Guadeloupe-Hidalgo ( 1848) 200,000 milltir sgwar o dir, sydd heddiw yn cynnwys y rhan fwyaf o daleithiau New Mexico, Arizona, California, Colorado, Utah a Nevada, i'r Unol Daleithiau.

Ymladdwyd Rhyfel Cartref America (1861 - 1865) rhwng unarddeg talaith yn y de oedd yn dymuno gadael yr Unol Daleithiau a'r gweddill o'r wlad. Dechreuodd y rhyfel yn dilyn etholiad Abraham Lincoln yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 1861. Prif asgwrn y gynnen oedd caethwasiaeth; yr oedd pob un o'r taleithiau oedd yn dymuno gadael yr Undeb yn rhai lle roedd caethwasiaeth yn elfen bwysig. Tra nad oedd Lincoln wedi bygwth dileu caethwasiaeth, ystyrid ef yn elyn i'r gyfundrefn. Dewisodd y gwrthryfelwyr Jefferson Davis fel Arlywydd.

Dechreuodd yr ymladd ar 12 Ebrill, 1861, pan ymosododd y gwrthryfelwyr ar Fort Sumter yn nhalaith De Carolina. Erbyn 1862 yr oedd brwydro ar raddfa eang wedi datblygu, gyda niferoedd mawr yn cael eu lladd. Ym mis Medi 1862, cyhoeddodd Lincoln ryddid y caethion. Erbyn hyn yr oedd y de wedi darganfod cadfridogion o athrylith yn Robert E. Lee a "Stonewall" Jackson, ac enillasant nifer o fuddugoliaethau dros yr Undebwyr. Lladdwyd Jackson mewn camgymeriad gan ei filwyr ei hun ym mrwydr Chancellorsville ym Mai 1863, a gorchfygwyd Lee ym Mrwydr Gettysburg yn nhalaith Pennsylvania ym mis Gorffennaf 1863. Yn y gorllewin, cipiodd byddin dan Ulysses S. Grant Vicksburg yn nhalaith Mississippi, a thrwy hynny enillodd yr Undebwyr reolaeth ar Afon Mississippi. Bu brwydro ffyrnig rhwng Grant a Lee yn nhalaith Virginia yn ystod haf 1864 a chipiodd William Tecumseh Sherman Atlanta, Georgia. Ar fore'r 9fed o Ebrill 1865, ildiodd Lee ei fyddin i Grant yn Appomattox a daeth y rhyfel i ben. Rhyddhawyd y caethion i gyd.

Yn 1868 gwerthodd Rwsia Alaska i'r Unol Daleithiau am 7,200,000 o ddoleri; roedd llawer o bobol yn y Senedd yn meddwl bod hynny'n ormod i'w dalu am "greigiau ac iâ", ond mae llawer o aur ac olew wedi dod o Alaska ers hynny.

En otros idiomas
Alemannisch: USA
አማርኛ: አሜሪካ
aragonés: Estatos Unitos
مصرى: امريكا
Aymar aru: Istadus Unidus
žemaitėška: JAV
Bikol Central: Estados Unidos
беларуская (тарашкевіца)‎: Злучаныя Штаты Амэрыкі
भोजपुरी: अमेरिका
Bahasa Banjar: Amirika Serikat
বিষ্ণুপ্রিয়া মণিপুরী: তিলপারাষ্ট্র
Chavacano de Zamboanga: Estados Unidos de America
Mìng-dĕ̤ng-ngṳ̄: Mī-guók
Tsetsêhestâhese: United States
Nēhiyawēwin / ᓀᐦᐃᔭᐍᐏᐣ: ᑭᐦᒋ ᒨᐦᑯᒫᓇᐢᑭᕀ
словѣньскъ / ⰔⰎⰑⰂⰡⰐⰠⰔⰍⰟ: Амєрїканьскꙑ Ѥдьнѥнꙑ Дрьжавꙑ
dansk: USA
Thuɔŋjäŋ: Pawuut Matiic
ދިވެހިބަސް: އެމެރިކާ
eʋegbe: United States
emiliàn e rumagnòl: Stat Unî
English: United States
Esperanto: Usono
español: Estados Unidos
estremeñu: Estaus Uníus
Na Vosa Vakaviti: United States
føroyskt: USA
français: États-Unis
贛語: 美國
गोंयची कोंकणी / Gõychi Konknni: अमेरिकेचीं संयुक्त राज्यां
客家語/Hak-kâ-ngî: Mî-koet
Fiji Hindi: United States
Kreyòl ayisyen: Etazini
Bahasa Indonesia: Amerika Serikat
Ido: Usa
íslenska: Bandaríkin
ᐃᓄᒃᑎᑐᑦ/inuktitut: ᐊᒥᐊᓕᑲ
la .lojban.: mergu'e
Kabɩyɛ: Etaazuunii
Gĩkũyũ: United States
kalaallisut: Naalagaaffeqatigiit
ភាសាខ្មែរ: សហរដ្ឋអាមេរិក
한국어: 미국
kernowek: Statys Unys
Luganda: Amerika
Basa Banyumasan: Amerika Serikat
Malagasy: Etazonia
Baso Minangkabau: Amerika Sarikat
Bahasa Melayu: Amerika Syarikat
Dorerin Naoero: Eben Merika
Plattdüütsch: USA
Nederlands: Verenigde Staten
norsk nynorsk: USA
norsk: USA
Sesotho sa Leboa: United States of America
Chi-Chewa: United States
Livvinkarjala: Amerikan Yhtysvallat
Pangasinan: Estados Unidos
Kapampangan: Estados Unidos
Deitsch: Amerikaa
Norfuk / Pitkern: Yunitid Staits
پنجابی: امریکہ
português: Estados Unidos
rumantsch: Stadis Unids
sicilianu: Stati Uniti
srpskohrvatski / српскохрватски: Sjedinjene Američke Države
Simple English: United States
slovenčina: Spojené štáty
Sranantongo: Kondre Makandrameki
Basa Sunda: Amérika Sarikat
svenska: USA
Kiswahili: Marekani
ไทย: สหรัฐ
Setswana: USA
Tok Pisin: Ol Yunaitet Stet
Xitsonga: Amerikha
chiTumbuka: United States
Twi: USA
reo tahiti: Fenua Marite
oʻzbekcha/ўзбекча: Amerika Qoʻshma Shtatlari
Tiếng Việt: Hoa Kỳ
Volapük: Lamerikän
吴语: 美国
Vahcuengh: Meijgoz
中文: 美国
文言: 美國
Bân-lâm-gú: Bí-kok
粵語: 美國
isiZulu: IMelika