Tutsi

Grŵp ethnig Affricanaidd yn byw yn Bwrwndi, Rwanda a rhannau o Weriniaeth Ddemocrataidd Congo yw'r Tutsi (hefyd Watutsi a Batutsi).

Dywedir fod y Tutsi yn wreiddiol o Ddwyrain Affrica, efallai Ethiopia, a'u bod wedi ymfudo i Rwanda a Bwrwndi yn yr 11g. Yn y 16g, ffurfiwyd teyrnasoedd Tutsi yn yr ardaloedd hyn. Yn draddodiadol, roedd y Tutsi yn ffermwyr gwartheg ac yn ffurfio dosbarth o uchelwyr yn Rwanda a Bwrwndi, tra'r oedd yr Hutu yn tyfu cnydau, a dan reolaeth y Tutsi. Gwaherddid priodasau rhwng Hutu a Tutsi.

Yn yr 20g, bu llawer o derfysg rhwng y Tutsi a'r Hutu. Yn 1994, lladdwyd rhwng 500,000 a miliwn o bobl gan ddau filisia Hutu yn Hil-laddiad Rwanda, a ddechreuodd ar 6 Ebrill pan saethwyd i lawr awyren yn cynnwys Arlywydd Rwanda, Juvénal Habyarimana. Lladdwyd Habyarimana, oedd yn aelod o'r Hutu. Yn y tri mis nesaf, lladdwyd nifer fawr o'r Tutsi, ac hefyd rhai Hutu oedd yn gwrthwynebu'r milisia.

  • canran hutu, tutsi a twa yn rwanda a bwrwndi

Canran Hutu, Tutsi a Twa yn Rwanda a Bwrwndi

Tutsi Hutu Twa
Rwanda 9% 90% 1%
Bwrwndi 16% 83% 1%
En otros idiomas
العربية: توتسي
asturianu: Tutsi
беларуская: Тутсі
български: Тутси
বাংলা: টুট্‌সি
català: Tutsis
čeština: Tutsiové
dansk: Tutsier
Deutsch: Tutsi
Ελληνικά: Τούτσι
English: Tutsi
Esperanto: Tucioj
español: Tutsi
eesti: Tutsid
euskara: Tutsi
فارسی: توتسی
suomi: Tutsit
français: Tutsis
עברית: טוטסי
hrvatski: Tutsi
Հայերեն: Տուտսի
Bahasa Indonesia: Tutsi
italiano: Tutsi
日本語: ツチ
ქართული: ტუტსი (ხალხი)
한국어: 투치족
Latina: Tutsienses
lietuvių: Tutsiai
Bahasa Melayu: Tutsi
Nederlands: Tutsi
ਪੰਜਾਬੀ: ਤੁਤਸੀ
polski: Tutsi
پنجابی: تُتسی لوک
português: Tútsis
русский: Тутси
Kinyarwanda: Abatutsi
Scots: Tutsi
srpskohrvatski / српскохрватски: Tutsi
Simple English: Tutsi
Soomaaliga: Tutsi
српски / srpski: Тутси
svenska: Tutsier
Türkçe: Tutsiler
українська: Тутсі
Tiếng Việt: Người Tutsi
Yorùbá: Tutsi
中文: 图西族