Triangulum (galaeth)

Galaeth Fawr Triangulum a recordiwyd gan seryddwr amatur
Llun o'r Arsyllfa Deheuol Ewrop yn dangos y breichiau troellog, a gyda lliw pinc nifylau allyrru
Llun yn olau uwchfioled o Alaeth Fawr Triangulum a recordiwyd gan loeren GALEX (llun NASA). Mae sêr poeth gyda màs uchel yn ymddangos yn y ddelwedd uwchfioled hon.

Galaeth troellog yng nghytser Triangulum yw Galaeth Triangulum ( Messier 33 yng Nghatalog Messier neu NGC 598). Cyfeirir ato weithiau fel y "Galaeth Pin-olwyn" ("Pinwheel Galaxy") mewn llyfrau poblogaidd ar seryddiaeth, ond mae hwnnw'n enw poblogaidd am galaeth Messier 101 yn ogystal. Galaeth Triangulum yw'r trydydd mwyaf o safbwynt maint a màs yn y Grŵp Lleol, y grŵp o galaethau sy'n cynnwys Galaeth y Llwybr Llaethog (ein galaeth ni) a Galaeth Fawr Andromeda, ac mae'n bosibl ei fod yn gydymaith disgyrchiant i galaeth Andromeda. Mae'n bosibl fod y galaeth Corrach Pisces (LGS 3), sy'n rhan o'r Grŵp Lleol hefyd, yn gydymaith i Driangulum.

Ar nosweithiau braf gellir gweld Galaeth Triangulum heb delesgop; dyma'r gwrthrych pellach i ffwrdd o'r ddaear sy'n weladwy i'r llygaid felly. Ond dylid fod yn ofalus i beidio â'i chymysgu â NGC 752, clwstwr agored gerllaw sy'n fwy disglair yn yr awyr na Triangulum ei hun.

Yn sgîl arsyllu gofalus yn 2005, mae ymchilwyr wedi llwyddo am y tro cyntaf i amcangyfrif troellu onglaidd a symudiad cywir Triangulum. Amcangyfrifir cyflymder o 190 ± 60 km/s mewn perthynas â'r Llwybr Llaethog sy'n awgrymu hefyd fod Triangulum yn symud i gyfeiriad Galaeth Andromeda.

En otros idiomas
العربية: مسييه 33
azərbaycanca: NGC 598
беларуская: M33 (аб’ект Месье)
беларуская (тарашкевіца)‎: Галяктыка Трыкутніка
български: M33
corsu: M33
Deutsch: Dreiecksnebel
Esperanto: M33
eesti: M33
hrvatski: Messier 33
Bahasa Indonesia: Galaksi Triangulum
Lëtzebuergesch: Messier 33
Malagasy: Messier 33
മലയാളം: മെസ്സിയർ 33
Bahasa Melayu: Galaksi Triangulum
مازِرونی: مسیه ۳۳
Nederlands: Driehoeknevel
norsk nynorsk: Triangelgalaksen
occitan: Messier 33
srpskohrvatski / српскохрватски: Messier 33
Simple English: Triangulum galaxy
slovenščina: Galaksija v Trikotniku
српски / srpski: Месје 33
Tiếng Việt: Thiên hà Tam Giác
Bân-lâm-gú: Messier 33