The Daily Telegraph

The Daily Telegraph

Mae The Daily Telegraph (a enwyd yn flaenorol yn "The Telegraph") yn bapur newydd argrafflen yn y DU, a gafodd ei sefydlu ym 1855. Ag eithrio'r Financial Times a The Herald (Glasgow), dyma'r unig bapur newydd dyddiol cenedlaethol i gael ei argraffu ar argraffbrint traddodiadol ar fformat argrafflen yn y Deyrnas Unedig, am fod y mwyafrif o argrafflenni eraill wedi newid i'r fformat llai ac yn debycach o ran maint i dabloid. Sefydlwyd ei chwaer bapur, The Sunday Telegraph ym 1961.

Ym mis Ionawr 2009, y Telegraph oedd y papur "maint mawr" gyda'r gwerthiant uchaf yng ngwledydd Prydain, gyda darllediad dyddiol cyfartalog o 842,912. Mae hyn yn cymharu gyda 617,483 ar gyfer papur newydd The Times, 358,844 ar gyfer The Guardian a 215,504 gyda The Independent.[1] Yn ôl arolwg MORI a gynhaliwd yn 2005, roedd 64% o ddarllenwyr y Telegraph yn bwriadu cefnogi'r Blaid Geidwadol yn yr etholiadau arfaethedig.[2]

Golygyddion

1855: Thornton Leigh Hunt
1873: Edwin Arnold
1888: John le Sage
1923: Fred Miller
1924: Arthur Watson
1950: Colin Coote
1964: Maurice Green
1974: Bill Deedes
1986: Max Hastings
1995: Charles Moore
2003: Martin Newland
2005: John Bryant
2007: Will Lewis
En otros idiomas
Afrikaans: Daily Telegraph
العربية: ديلي تلغراف
беларуская: The Daily Telegraph
Ελληνικά: The Daily Telegraph
հայերեն: The Daily Telegraph
Bahasa Indonesia: The Daily Telegraph
ქართული: The Daily Telegraph
नेपाल भाषा: देली टेलीग्राफ
norsk nynorsk: The Daily Telegraph
русский: The Daily Telegraph
Simple English: The Daily Telegraph
slovenčina: The Daily Telegraph
slovenščina: The Daily Telegraph
українська: Дейлі телеграф
oʻzbekcha/ўзбекча: Deyli telegraf
Tiếng Việt: The Daily Telegraph