Teyrnas Jeriwsalem

Teyrnas Jeriwsalem a'r teyrnasoedd Cristnogol eraill (mewn gwyrdd) yn y Dwyrain Canol yn 1135.

Teyrnas Gristnogol a sefydlwyd wedi'r Groesgad Gyntaf yn 1099 oedd Teyrnas Jeriwsalem. Ar y dechrau, roedd yn gasgliad o ddinasoedd a thiriogaethau oedd wedi eu cipio oddi ar y Mwslimiaid yn ystod y Groesgad, ac mae'n ymddangos nad oedd ei rheolwr cyntaf, Godefroid o Fouillon, yn ei alw ei hun yn frenin. Tyfodd i fod yn rym sylweddol yn y Dwyrain Canol. Yn 1187 gorchfygwyd byddin Teyrnas Jeriwsalem gan Saladin ym Mrwydr Hattin ac yn ddiweddarach yr un flwyddyn cipiodd Saladin ddinas Jeriwsalem ei hun. Parhaodd y deyrnas hyd 1291 pan gipiwyd Acre gan y Mwslimiaid.

  • brenhinoedd teyrnas jeriwsalem

Brenhinoedd Teyrnas Jeriwsalem

  • Godefroid o Fouillon 1099 - 1100
  • Baldwin I 1100 - 1118
  • Baldwin II 1118 - 1131
  • Melisent a Fulk o Jeriwsalem 1131 - 1143
  • Baldwin III 1143 - 1162 (gyda Melisent hyd 1153)
  • Amalric I 1162 - 1174
  • Baldwin IV 1174 - 1185
  • Baldwin V 1185 - 1186
  • Sibylla a Guy de Lusignan 1186 - 1187

(Collwyd Jeriwsalem yn 1187; bu farw Sybilla yn 1190, ond parhaodd Guy yn frenin gweddillion y diriogaeth hyd 1192)

  • Isabella I 1192 - 1205 (gyda Conrad I (1192); Henri I (1192 - 1197) ac Amalric II (1198 - 1205)
  • Maria 1205 - 1212
  • Yolande (Isabella II) 1212 - 1228
  • Conrad II (Conrad IV, brenin yr Almaen) 1228 - 1254
  • Conrad III 1254 - 1268
  • Hugh III 1268 - 1284
  • Henry II 1285 - 1291
WikiHistory.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy .
En otros idiomas
azərbaycanca: Yerusəlim krallığı
Bahasa Indonesia: Kerajaan Yerusalem
Bahasa Melayu: Kerajaan Jerusalem
Plattdüütsch: Königriek Jerusalem
norsk nynorsk: Kongedømet Jerusalem
srpskohrvatski / српскохрватски: Jeruzalemsko Kraljevstvo