Teyrnas (bioleg)

Lefelau dosbarthiad biolegolRhywogaethGenwsTeuluUrddDosbarthFfylwmTeyrnasParthBywyd

Magnify-clip.png
Y prif rengoedd mewn dosbarthiad biolegol.

Rheng tacson yw teyrnas (lluosog: teyrnasoedd; Lladin: regnum) – y rheng uchaf-ond-un – a ddefnyddir i ddosbarthu'n wyddonol organebau byw (anifeiliaid, planhigion ayb). Mae'r gair hefyd yn cael ei ddefnyddio o fewn bywydeg ar gyfer ffosiliau ac organebau a ddifodwyd. Mae'n cael ei leoli yn uwch na ffylau ac yn is na pharth.

Yn yr Yr Oesoedd Canol disgrifiwyd rhywogaethau gwahanol o fewn genws gyda rhestr hir o dermau Lladin. Nid tan y 18fed ganrif y cyflwynodd Carolus Linnaeus (1707–1778) y system sy’n parhau mewn defnydd heddiw, lle defnyddir dim ond dau air, un am y genws ac un am y rhywogaeth. Yr enw am y system hon yw'r system ddeuenwol. Yn Systema Naturae Carolus Linnaeus (1735), rhennir pethau byw yn ddwy deyrnas: Animalia a Vegetabilia. Ers hynny, datblygodd gwayddoniaeth a thechnoleg ac mae llawer wedi ei ganfod ynglŷn ag organebau un-gellog, ymysg pethau eraill, felly roedd angen system mwy cynnil.[1] Yn y 1960au cyflwynwyd y gair "Rank" a newidiwyd yn ei dro i "Domain" (Cymraeg: Parth).

Un system o'r fath yw'r system 6-teyrnas a ddefnyddir yn UDA, lle rhennir organebau yn Bacteria, Archaea, Protista, Fungi (Ffwng), Plantae (Planhigion) ac Animalia (neu "Anifeiliaid"). Yng ngwledydd Prydain, India, Awstralia ac America Ladin, fodd bynnag, defnyddir 5-teyrnas, sef: Anifeiliaid, Planhigion, Ffwng, Protista a Monera. Mae rhai dulliau o ddosbarthu bywyd yn hepgor y term "Teyrnas", gan nodi nad yw'r teyrnasoedd traddodiadol yn perthyn i un hynafiad cyffredin.

Gellir ychwanegu rhagddodiaid megis "isdeyrnas", "uwchdeyrnas" neu "infradeyrnas".

En otros idiomas
العربية: مملكة (تصنيف)
беларуская: Царства (біялогія)
беларуская (тарашкевіца)‎: Царства (біялёгія)
brezhoneg: Riezad
Esperanto: Regno (biologio)
estremeñu: Réinu (biologia)
فارسی: فرمانرو
hornjoserbsce: Swět (biologija)
Bahasa Indonesia: Kerajaan (biologi)
日本語: 界 (分類学)
Basa Jawa: Krajan (biologi)
한국어: 계 (생물학)
Lëtzebuergesch: Räich (Biologie)
Lingua Franca Nova: Rena (biolojia)
മലയാളം: കിങ്ഡം
Bahasa Melayu: Alam (biologi)
မြန်မာဘာသာ: လောက (ဇီဝဗေဒ)
Napulitano: Regno (biologgia)
Nederlands: Rijk (biologie)
norsk nynorsk: Biologisk rike
Kapampangan: Kaarian (biolohia)
português: Reino (biologia)
Runa Simi: Rikch'aq suyu
română: Regn
srpskohrvatski / српскохрватски: Carstvo (taksonomija)
Simple English: Kingdom (biology)
slovenčina: Ríša (taxonómia)
slovenščina: Kraljestvo (biologija)
Türkmençe: Şalyk (biologiýa)
татарча/tatarça: Патшалык (биология)
українська: Царство (біологія)
oʻzbekcha/ўзбекча: Dunyo (biologiya)
Tiếng Việt: Giới (sinh học)
West-Vlams: Ryk (biologie)
中文: 界 (生物)
Bân-lâm-gú: Kài (hun-lūi-ha̍k)
粵語: