Talaith Bolzano

Lleoliad Talaith Ymreolaethol Bolzano

Talaith yng ngogledd yr Eidal yw Talaith Ymreolaethol Bolzano-Alto Adige (Eidaleg: Provincia autonoma di Bolzano-Alto Adige, Almaeneg: Autonome Provinz Bozen-Südtirol, Ladino: Provinzia Autonòma de Balsan-Südtirol. Ffurfiwyd y dalaith o ran ddeheuol ardal hanesyddol y Tirol, a chyfeirir at yr ardal fel Alto Adige mewn Eidaleg a Südtirol mewn Almaeneg.

Mae'r dalaith yn ffurfio rhan ogleddol rhanbarth Trentino-Alto Adige. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 476,000. Y brifddinas yw Bolzano. Mae'r ardal yn dairieithog: Almaeneg, Eidaleg a Ladino, gyda siaradwyr Almaeneg fel mamiaith yn y mwyafrif.

Hyd at 1918, roedd yr ardal yn rhan o Ymerodraeth Awstria, ond wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf daeth yn rhan o'r Eidal. Yng nghyfrifiad 1910, roedd llai na 3% o'r boblogaeth yn siarad Eidaleg fel mamiaith, ond dan lywodraeth Mussolini gwnaed ymdrech fawr i Eidaleiddio'r ardal.

Y sefyllfa ieithyddol yn ôl cyfrifiad 2001 oedd:

  1. 69,15% Almaeneg
  2. 26,47% Eidaleg
  3. 4,37% Ladino

Mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad Almaeneg fel mamiaith mewn 103 allan o 116 cymuned y dalaith. Mewn 8 cymuned, siaradwyr Ladino sydd yn y mwyafrif.

En otros idiomas
Afrikaans: Suid-Tirol
Alemannisch: Südtirol
azərbaycanca: Cənubi Tirol
Boarisch: Sidtiroul
български: Южен Тирол
brezhoneg: Sutirol
català: Tirol del Sud
kaszëbsczi: Pôłniowi Tirol
dansk: Sydtyrol
Deutsch: Südtirol
emiliàn e rumagnòl: Elt Égg’
English: South Tyrol
Esperanto: Sudtirolo
hornjoserbsce: Južny Tirol
Bahasa Indonesia: Provinsi Bolzano-Bozen
한국어: 볼차노현
lumbaart: Südtirol
lietuvių: Pietų Tirolis
Nedersaksies: Zuud-Tirool
Nederlands: Zuid-Tirol
norsk nynorsk: Provinsen Bolzano
norsk: Syd-Tirol
Runa Simi: Urin Tirul
rumantsch: Tirol dal Sid
srpskohrvatski / српскохрватски: Bolzano (provincija)
Simple English: South Tyrol
slovenščina: Južna Tirolska
српски / srpski: Болцано (округ)
svenska: Sydtyrolen
Tagalog: Bolzano
Türkçe: Güney Tirol
Tiếng Việt: Nam Tirol
ייִדיש: דרום טיראל
Bân-lâm-gú: Bolzano Chū-tī Séng