Syria

الجمهورية العربية السورية
Al-Ǧumhūriyyah al-ʿArabiyyah
as-Sūriyyah

Gweriniaeth Arabaidd Syria
Baner SyriaArfbais Syria
BanerArfbais
Arwyddair: dim
Anthem: Homat el Diyar
("Gwarcheidwaid y Famwlad")
Lleoliad Syria
PrifddinasDamascus
Dinas fwyafDamascus
Iaith / Ieithoedd swyddogolArabeg
LlywodraethGweriniaeth arlywyddol
Arlywydd
Prif Weinidog
Bashar al-Assad
Wael Nader Al-Halqi
Annibyniaeth
1af Datganwyd
2il Datganwyd
Cydnabuwyd
o Ffrainc
Medi 1936
1 Ionawr 1944
17 Ebrill 1946
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
185,180 km² (88ain)
0.06
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2014
 - Dwysedd
 
17,951,639[1] (54ydd)
118.3/km2 (306.5/mill sg)/km² (101fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2012
$107.831 biliwn (63fed (amc.))
$5,040 (111fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2007)0.724 (109fed) – canolig
Arian cyfredPunt Syriaidd (SYP)
Cylchfa amser
 - Haf
EET (UTC+2)
EEST (UTC+3)
Côd ISO y wlad.sy
Côd ffôn+963

Gwlad yng ngorllewin Asia, yn y Dwyrain Canol, yw Gweriniaeth Arabaidd Syria neu Syria (Arabeg: الجمهورية العربية السورية‎). Y gwledydd cyfagos yw Libanus i'r gorllewin, Israel i'r de-orllewin, Gwlad Iorddonen i'r de, Irac i'r dwyrain a Thwrci i'r gogledd. Fodd bynnag, mae'r anghydfod am union leoliad y ffin rhwng Syria ac Israel ac am Ucheldiroedd Golan heb ei ddatrys. Yn y gorllewin mae gan y wlad arfordir ar y Môr Canoldir. Y brifddinas yw Damascus, sy'n un o'r dinasoedd hynaf yn y byd.[2]

Hanes

Theatr Rufeinig yn Bosra

Gellir olrhain hanes Syria i 10,000 o flynyddoedd yn ôl a gellir canfod llawer iawn o arteffactau a naddwyd o garreg o'r adeg honno. Tua 3,000 C.C. sefydlwyd gwareiddiad yr Ebla. Gellir gweld fod y rhan hon o'r Dwyrain Canol wedi bod mewn cysylltiad ag arweinyddion yr Aifft e.e. ceir anrhegion gan Ffaros yr Aifft sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod hwn. Ers yr Henfyd hyd at yr oes fodern, bu lleoliad Syria yn y Lefant yn groesffordd i ymerodraethau ac o bwys strategol i benaduriaid lleol ac archbwerau rhyngwladol ill dau. Teyrnasodd brenhinoedd y Dwyrain Agos yn ystod cyfnodau’r Arameaid, yr Asyriaid a’r Babiloniaid. Daeth o dan reolaeth y Groegiaid yn sgil conwest Alecsander Fawr yn 322 CC, ac yn rhan o’r Ymerodraeth Rufeinig Ddwyreiniol yn 64 CC.

Daeth Islam i Syria yn y 7g, ac o hynny ymlaen roedd y wlad yn diriogaeth i gyfres o ymerodraethau Mwslimaidd: yr Umayyad, yr Abasiaid, y Tuluniaid, yr Ikshidiaid, y Fatimiaid, yr Hamdaniaid, yr Ayyubiaid, y Seljwciaid, y Mamlwciaid, a’r Otomaniaid. Wedi chwalfa’r Ymerodraeth Otomanaidd yn sgil diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth Syria dan ddylanwad y Ffrancod fel rhan o’r Mandad Ffrengig dros Syria a Libanus.

Enillodd y wlad ei hannibyniaeth ar Ffrainc wedi’r Ail Ryfel Byd a sefydlwyd Gweriniaeth Arabaidd Syria ym 1946. Unodd â'r Aifft i ffurfio'r Weriniaeth Arabaidd Unedig rhwng 1958 a 1961.

Llywodraeth y teulu Assad

Daeth Hafez al-Assad yn arlywydd y wlad yn Nhachwedd 1970 hyd at ei farwolaeth yn 2000 pan etholwyd ei fab Bashar al-Assad yn arlywydd, ac yntau'n 34 oed. Mae ef, fel oedd ei dad o'i flaen, yn aelod o Blaid y Ba'ath. Er iddo gyhoeddi y byddai'n dod a newidiadau chwyldroadol a democrataidd i'r wlad, ychydig iawn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd.

Bu Syria o dan Gyfraith Argyfwng rhwng 1963 a 2011. Mae'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig ond diarddelwyd y wlad yn 2011.[3]

Gwrthryfel a rhyfel cartref

Searchtool.svg
Prif erthygl: Gwrthryfel Syria
Y sefyllfa fel ag yr oedd yn Syria, Medi 2015

Rhwng Chwefror 2011 a Chwefror 2017 bu farw 470,000 o bobl[4] 7.6 miliwn a chafwyd a ffodd dros 5 miliwn o bobl o'r wlad yn ôl UNHCR),[5] ac felly anodd iawn yw amcangyfrif union boblogaeth y wlad.

Ar 26 Chwefror 2011 cafwyd sawl protest yn erbyn y llywodraeth; roedd hyn yn dilyn protestiadau drwy'r Dwyrain Canol a adwaenir fel "y Gwanwyn Arabaidd" a gychwynwyd yn Tiwnisia ar 17 Rhagfyr 2010 - yn ninas Sidi Bouzid yng nghanolbarth Tiwnisia pan losgodd dyn ifanc ei hun hyd farwolaeth gan gychwyn cyfres o brotestiadau gan y werin. Roedd y protestwyr yn Syria yn galw am newidiadau gwleidyddol ac am adnewyddu hawliau dynol; galwyd hefyd am ddod â'r Gyfraith Argyfwng i ben. Cafwyd protest mawr ar 18-19 Mawrth 2011 a honnir bod yr awdurdodau wedi lladd ac anafu protestwyr. Wedi hynny bu rhagor o brotestiadau; yn ôl rhai, roedd byddin Syria wedi saethu unigolion ac aelodau'r protestiadau hyn mewn sawl ardal. Credir hefyd fod ambell ran o'r fyddin wedi troi at y chwyldroadwyr.

Yng ngwanwyn 2011, yn fuan ar ôl i'r protestiadau ddechrau, dechreuodd sawl grŵp arfog ymladd yn erbyn y llywodraeth; bu llywodraeth Syria'n llawdrwm, gan ddefnyddio'r fyddin i geisio trechu'r gwrthryfelwyr arfog.[6][7]. Yn 2011 unodd rhai o'r gwrthryfelwyr dan faner "Byddin Rhyddid Syria" ac fe'u cefnogwyd gan lywodraethau Ewrop a UDA.

Yn ôl sawl ffynhonnell, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, roedd rhwng 14,005 a 19,770 o bobl wedi marw erbyn haf 2012, gyda thua hanner y nifer hwn yn sifiliaid.[8] Yn ôl y CU, erbyn Mehefin 2012 roedd hi bellach yn gyflwr o ryfel cartref yn y wlad, gyda byddin y llywodraeth wedi colli llawer o ardaloedd i Fyddin Rhyddid Syria a grwpiau arfog eraill.[9] Ymunodd sawl grŵp arfog jihadaidd yn y rhyfel gan gynnwys Jabhat al-Nusra ('Ffrynt al-Nusra') sy'n deyrngar i al-Qaeda ac a ystyrir yn fudiad terfysgol gan yr Unol Daleithiau. Daw llawer o ryfelwyr Jabhat al-Nusra o wledydd eraill ar draws y byd Islamaidd a thu hwnt. Eu bwriad yw sefydlu cyfraith sharia yn y wlad fel rhan o'r 'califfaeth' Islamaidd.

Yn Awst 2013 dywedodd John Kerry (UDA) fod Bashar al-Assad wedi defnyddio arfau cemegol yn erbyn sifiliaid[10] a chafwyd sawl cyhuddiad yn y 2000-2010au fod hawliau dynol sylfaenol wedi'u torri gan y Llywodraeth; yn ôl y Cenhedloedd Unedig (ar 9 Tachwedd 2011) lladdwyd dros 3500 gyda 250 ohonynt yn blant nifer o'r rheiny, yn enwedig bechgyn, wedi'u treisio gan filwyr Bashar al-Assad.[11][12]

Erbyn Awst 2014 credir bod 191,369 wedi marw yn y gwrthryfel.

Cefnogaeth Rwsia

Bu gan Rwsia gysylltiad agos gyda Syria ers y 1960au ac yn Haf 2015 symudwyd o leiaf 2,000 o bersonnel i'r wlad a llawer o arfau, llongau ac awyrennau. Ar ddiwrnod olaf Medi 2015 gollyngodd awyrennau Rwsia fomiau ar ISIS. Honodd UDA i'r bomiau gael eu gollwng ar sifiliaid a gwrthrefelwyr eraill, rhai ohonynt yn grwpiau a gefnogwyd gan Brydain.[13]

Ffyrnigwyd UDA a'u cynghreiriaid gan y ffaith i Rwsia dderbyn gwahoddiad gan Lywodraeth Syria i'w cynorthwyo i amddiffyn y wlad. Aryddodd Rwsia hefyd 1,571 o 'gytundebau' gydag arweinwyr lleol - a oedd yn cytuno i gefnogi Llywodraeth y wlad.[14]

En otros idiomas
Аҧсшәа: Шьамтәыла
Acèh: Suriyah
адыгабзэ: Сирие
Afrikaans: Sirië
Alemannisch: Syrien
አማርኛ: ሶርያ
aragonés: Siria
Ænglisc: Syria
العربية: سوريا
ܐܪܡܝܐ: ܣܘܪܝܐ
مصرى: سوريا
অসমীয়া: ছিৰিয়া
asturianu: Siria
авар: Сирия
azərbaycanca: Suriya
تۆرکجه: سوریه
башҡортса: Сүриә
Boarisch: Syrien
žemaitėška: Sėrėjė
Bikol Central: Sirya
беларуская: Сірыя
беларуская (тарашкевіца)‎: Сырыя
български: Сирия
भोजपुरी: सीरिया
bamanankan: Suriya
বাংলা: সিরিয়া
བོད་ཡིག: སི་རི་ཡ།
বিষ্ণুপ্রিয়া মণিপুরী: সিরিয়া
brezhoneg: Siria
bosanski: Sirija
ᨅᨔ ᨕᨘᨁᨗ: Suriah
буряад: Сири
Chavacano de Zamboanga: Siria
Mìng-dĕ̤ng-ngṳ̄: Sê̤ṳ-lé-ā
нохчийн: Шема
Cebuano: Siria
کوردی: سووریا
corsu: Siria
qırımtatarca: Suriye
čeština: Sýrie
словѣньскъ / ⰔⰎⰑⰂⰡⰐⰠⰔⰍⰟ: Сѷрїꙗ
Чӑвашла: Сири
dansk: Syrien
Deutsch: Syrien
Zazaki: Suriya
dolnoserbski: Syriska
डोटेली: सीरिया
ދިވެހިބަސް: ސޫރިޔާ
Ελληνικά: Συρία
English: Syria
Esperanto: Sirio
español: Siria
eesti: Süüria
euskara: Siria
estremeñu: Siria
فارسی: سوریه
suomi: Syyria
Võro: Süüria
føroyskt: Sýria
français: Syrie
arpetan: Sirie
Nordfriisk: Syrien
Frysk: Syrje
Gaeilge: An tSiria
Gagauz: Siriya
Gàidhlig: Siria
galego: Siria
گیلکی: سوری
Avañe'ẽ: Síria
गोंयची कोंकणी / Gõychi Konknni: सीरिया
𐌲𐌿𐍄𐌹𐍃𐌺: 𐍃𐌰𐌿𐍂𐌾𐌰
ગુજરાતી: સિરિયા
Gaelg: Yn Teer
Hausa: Siriya
客家語/Hak-kâ-ngî: Si-li-â
Hawaiʻi: Suria
עברית: סוריה
हिन्दी: सीरिया
Fiji Hindi: Syria (des)
hrvatski: Sirija
hornjoserbsce: Syriska
Kreyòl ayisyen: Siri
magyar: Szíria
Հայերեն: Սիրիա
interlingua: Syria
Bahasa Indonesia: Suriah
Interlingue: Siria
Ilokano: Siria
Ido: Siria
íslenska: Sýrland
italiano: Siria
日本語: シリア
Patois: Siria
la .lojban.: sixygu'e
Basa Jawa: Suriah
ქართული: სირია
Qaraqalpaqsha: Siriya
Taqbaylit: Surya
Адыгэбзэ: Шам
Kabɩyɛ: Siirii
Kongo: Syria
Gĩkũyũ: Syria
қазақша: Сирия
kalaallisut: Syria
ភាសាខ្មែរ: ស៊ីរី
ಕನ್ನಡ: ಸಿರಿಯಾ
한국어: 시리아
kurdî: Sûrî
коми: Сирия
kernowek: Syri
Кыргызча: Сирия
Latina: Syria
Ladino: Surya
Lëtzebuergesch: Syrien
лезги: Сирия
Lingua Franca Nova: Suria
Limburgs: Syrië
Ligure: Sciria
lumbaart: Siria
lingála: Sirí
لۊری شومالی: سۊریٱ
lietuvių: Sirija
latviešu: Sīrija
मैथिली: सीरिया
мокшень: Сирие
Malagasy: Siria
олык марий: Сирий
македонски: Сирија
മലയാളം: സിറിയ
монгол: Сири
मराठी: सीरिया
Bahasa Melayu: Syria
မြန်မာဘာသာ: ဆီးရီးယားနိုင်ငံ
مازِرونی: سوریه
Dorerin Naoero: Syria
Nāhuatl: Siria
Plattdüütsch: Syrien
Nedersaksies: Syrië
नेपाली: सीरिया
नेपाल भाषा: सिरिया
Nederlands: Syrië
norsk nynorsk: Syria
norsk: Syria
Novial: Siria
occitan: Siria
Livvinkarjala: Sirii
Oromoo: Siiriyaa
ଓଡ଼ିଆ: ସିରିଆ
Ирон: Сири
ਪੰਜਾਬੀ: ਸੀਰੀਆ
Kapampangan: Siria
Papiamentu: Syria
Picard: Sirie
पालि: सिरिया
Norfuk / Pitkern: Siriya
polski: Syria
Piemontèis: Siria
پنجابی: شام
Ποντιακά: Συρία
پښتو: سوريه
português: Síria
Runa Simi: Sirya
română: Siria
русский: Сирия
русиньскый: Сирия
Kinyarwanda: Siriya
संस्कृतम्: सिरिया
саха тыла: Сирия
sardu: Siria
sicilianu: Siria
Scots: Sirie
سنڌي: شام
davvisámegiella: Syria
srpskohrvatski / српскохрватски: Sirija
සිංහල: සිරියාව
Simple English: Syria
slovenčina: Sýria
slovenščina: Sirija
chiShona: Syria
Soomaaliga: Suuriya
shqip: Siria
српски / srpski: Сирија
SiSwati: ISiriya
Basa Sunda: Suriah
svenska: Syrien
Kiswahili: Syria
ślůnski: Syryjo
தமிழ்: சிரியா
తెలుగు: సిరియా
tetun: Síria
тоҷикӣ: Сурия
ትግርኛ: ሱርያ
Türkmençe: Siriýa
Tagalog: Syria
Tok Pisin: Syria
Türkçe: Suriye
Xitsonga: Syria
татарча/tatarça: Сүрия
chiTumbuka: Syria
Twi: Syria
удмурт: Сирия
ئۇيغۇرچە / Uyghurche: سۇرىيە
українська: Сирія
اردو: سوریہ
oʻzbekcha/ўзбекча: Suriya
vepsän kel’: Sirii
Tiếng Việt: Syria
West-Vlams: Syrië
Volapük: Süriyän
walon: Sireye
Winaray: Sirya
Wolof: Siri
吴语: 叙利亚
მარგალური: სირია
ייִדיש: סיריע
Yorùbá: Síríà
Zeêuws: Syrië
中文: 叙利亚
文言: 敘利亞
Bân-lâm-gú: Su-lī-a
粵語: 敘利亞