Swabia

Ardal Swabia o fewn ffiniau presennol yr Almaen.
Swabia yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig (map 1572).

Rhanbarth diwyllianol, hanesyddol ac ieithyddol yn yr Almaen yw Swabia (Almaeneg: Schwaben; hefyd Schwabenland neu Ländle ar lafar; ceir y ffurfiau hynafiaethol Suabia a Svebia hefyd weithiau). Mae'n gorwedd yn ne-orllewin yr Almaen gan gynnwys rhan helaeth talaith Baden-Württemberg am y ffin â'r Swistir. Enwir Swabia ar ôl y Suebi, llwyth Germanaidd hynafol.

Roedd Swabia yn un o'r deg Cylch Ymerodrol yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig o 1500 hyd ddiwedd yr Ymerodraeth yn 1806. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn ardal helaethach o lawer, yn ymestyn o fynyddoedd y Vosges yn y gorllewin i Afon Lech yn y dwyrain: roedd y diriogaeth honno'n cynnwys yr Alsace hanesyddol, ardal Baden ar lannau Afon Rhein, yr ardaloedd Almaeneg eu hiaith yng ngogledd y Swistir, talaith Vorarlberg yn Awstria a Thywsogaeth Liechtenstein.

  • pobl o swabia

Pobl o Swabia

Detholiad o rai Swabiaid adnabyddus:

  • Friedrich Adler (artist) (cynlluniwr Jugendstil ac Art Deco)
  • Roland Asch (gyrrwr ceir rasio)
  • Dieter Baumann (athletwr)
  • Albrecht Behmel (hanesydd)
  • Götz von Berlichingen (marchog)
  • Robert Bosch (dyfeisydd)
  • Berthold Brecht (bardd a dramodydd)
  • Gottlieb Daimler (sylfenydd cwmni ceir Daimler)
  • Rudolf Diesel (dyfeisydd yr injan Diesel)
  • Josef Eberle (bardd)
  • Jörg von Ehingen (marchog ac awdwr dyddiadur canoloesol)
  • Albert Einstein (ffisegwr)
  • Siegfried Einstein (bardd)
  • Georg Elser (ceisiodd asasineiddio Adolf Hitler yn Munich yn 1939)
  • Roland Emmerich (cyfarwyddwr ffilm Hollywood)
  • Gudrun Ensslin (aelod o'r Red Army Faction sef y Giang Baader-Meinhof)
  • Johann Georg Faust (dewin, sail i'r cymeriad Faust)
  • Wilhelm Groener (swyddog)
  • Wilhelm Hauff (bardd)
  • Georg Wilhelm Friedrich Hegel (athronydd)
  • Martin Heidegger (athronydd)
  • Ernst Heinkel (cynlluniwr awyrennau)
  • Hermann Hesse (llenor, enillydd Gwobr Nobel am Lenyddiaeth 1946)
  • Theodor Heuss (cyn arlywydd)
  • Friedrich Hölderlin (bardd)
  • Johannes Kepler (seryddwr a mathemategwr)
  • Justinus Kerner (bardd)
  • Carl Friedrich Kielmeyer (biolegydd)
  • Kurt Georg Kiesinger (gwleidydd)
  • Carl Laemmle (sylfaenwr Universal Studios)
  • Ottmar Mergenthaler (dyfeisydd y linotype)
  • Eduard Mörike (bardd)
  • Leopold Mozart, tad Wolfgang Amadeus Mozart
  • Gerd Müller (cyn beldroediwr)
  • Reinhold Nägele (artist)
  • Friedrich Immanuel Niethammer (diwinydd, noddwr Hegel)
  • Erwin Rommel (cadfridog)
  • Friedrich Wilhelm Joseph Schelling (athronwr)
  • Friedrich Schiller (llenor a hanesydd)
  • Claus von Stauffenberg (ceisiodd ladd Adolf Hitler)
  • Margarete Steiff (gwneuthurwr teganau)
  • Andreas Stihl (sylfaenwr Stihl Maschinenfabrik)
  • Ludwig Uhland (bardd)
  • Richard von Weizsäcker (gwleidydd)
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Germany template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy .
En otros idiomas
Alemannisch: Schwaben
aragonés: Suebia
Ænglisc: Swǣfe
العربية: شوابيا
asturianu: Suabia
Boarisch: Schwobm
беларуская: Швабія
беларуская (тарашкевіца)‎: Швабія
български: Швабия
brezhoneg: Swabia
bosanski: Švabija
català: Suàbia
čeština: Švábsko
dansk: Schwaben
Deutsch: Schwaben
Ελληνικά: Σουηβία
English: Swabia
Esperanto: Ŝvaboj
español: Suabia
eesti: Švaabimaa
فارسی: شوابن
suomi: Svaabia
français: Souabe
galego: Suabia
עברית: שוואביה
हिन्दी: स्वाबिया
hrvatski: Švapska
magyar: Svábföld
Bahasa Indonesia: Schwaben
íslenska: Sváfaland
italiano: Svevia
ქართული: შვაბია
한국어: 슈바벤
Latina: Suebia
lietuvių: Švabija
latviešu: Švābija
Nederlands: Zwaben (streek)
norsk nynorsk: Schwaben
norsk: Schwaben
occitan: Soabia
polski: Szwabia
português: Suábia
română: Suabia
русский: Швабия
sicilianu: Svevia
Scots: Swabie
srpskohrvatski / српскохрватски: Švapska
slovenčina: Švábsko
slovenščina: Švabska
shqip: Schwaben
српски / srpski: Швабија
svenska: Schwaben
தமிழ்: சுவாபியா
Türkçe: Svabya
українська: Швабія
中文: 士瓦本