Robert Clive

Robert Clive
Clive.jpg
Clive o India ar ôl Brwydr Plassey, llun olew gan Francis Hayman
Ganwyd25 Medi 1725 Edit this on Wikidata
Swydd Amwythig Edit this on Wikidata
Bu farw22 Tachwedd 1774 Edit this on Wikidata (49 oed)
Achos: exsanguination Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr, Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Merchant Taylors' School Edit this on Wikidata
GalwedigaethGwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata
PlantEdward Clive, 1st Earl of Powis Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Milwr a gweinyddwr enwog o Sais oedd Robert Clive neu'r Barwn Clive o Plassey (29 Medi, 1725 - 22 Tachwedd, 1774), a aned ger Market Drayton yn Sir Amwythig. Ei enw poblogaidd o "Clive o India".

Chwareai ran bwysig yn hanes cynnar Cwmni Dwyrain India. Treuliodd dri chyfnod yn India. Yn ei ail dymor yn y wlad (1753 - 1760) daeth yn enwog am ei ran yn ail-gipio dinas Calcutta o ddwylo'r gwrthryfelwyr ac yn ddiweddarach am ei fuddugoliaeth enwog yn erbyn Surajah Dowlah, Nawab Bengal, ym Mrwydr Plassey (1757). Am gyfnod roedd yn rheolwr de facto ar Fengal i gyd. Ar ôl dychwelyd i Loegr yn 1760 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Amwythig yn 1761 a'i urddo'n farwn gan William Pitt "yr Iau". Yn ei drydydd dymor yn India gosododd sylfeini rheolaeth Prydain ar y wlad i gyd. Cyflawnodd hunanladdiad yn 1774 yn sgîl ffrae hir-dymor am ei weinyddiaeth ar y Cwmni.

  • llyfryddiaeth

Llyfryddiaeth

  • Burhan Ibn Hasan, Tuzak-I-Walajahi (Prifysgol Madras, 1934)
  • H.E.Busteed, Echoes from Old Calcutta (Calcutta, 1908)
  • A. Mervyn Davies, Clive of Plassey (Llundain, 1939)
  • Michael Edwardes, The Battle of Plassey and the Conquest of Bengal (Llundain, 1963)
  • Mark Bence-Jones, Clive of India (Llundain, 1974)
  • Thomas Babington Macaulay, "Lord Clive" yn Essays (Llundain: Longman's, Green & Co, 1891), tt. 502-547.
  • P.J. Marshall, Bengal, The British Bridgehead: Eastern India 1740-1828 (Caergrawnt, 1988)
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
En otros idiomas