Rhyfel Cartref Lloegr

Print Almaenig o'r 17g yn dangos dienyddiad Siarl I

Ymladdwyd Rhyfel Cartref Lloegr rhwng 1642 a 1651. Mewn gwirionedd roedd yn dri rhyfel cartref: Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr (1642–6), Ail Ryfel Cartref Lloegr (1648–9) a Thrydydd Rhyfel Cartref Lloegr Rhyfel (1650–51). Roedd y rhyfeloedd yn Lloegr yn rhan o gyfres o ryfeloedd a elwir yn Rhyfeloedd y Tair Teyrnas, yn cynnwys Rhyfel Cartref yr Alban (1644–1645) a Rhyfel Cyngheiriaid Iwerddon (1642–9).

Roedd Cymru wedi ei hymgorffori yn groes i'w hewyllus yn nheyrnas Lloger ar y pryd, o ganlyniad i Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1535 a 1542 (a elwid ers talwm yn'Ddeddfau Uno') ac ystyrir yr ymladd yng Nghymru yn rhan o Ryfel Cartref Lloegr.

Roedd y rhyfeloedd yn ganlyniad anghydfod rhwng y brenin Siarl I o Loegr a'r Alban (neu Charles) a'i ddeiliaid, ynghylch crefydd ac ynghylch hawliau'r brenin. Ymladdwyd y rhyfel rhwng plaid y brenin a phlaid y Senedd. Y canlyniad oedd buddugoliaeth y blaid Seneddol yn Lloegr, dan Oliver Cromwell yn y pen draw, dros y Brenhinwyr yn Lloegr, yna yn yr Alban ac Iwerddon hefyd.

Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr

Ymladdwyd hwn rhwng 1642 a 1646, rhwng plaid y brenin a phlaid y Senedd. Y prif frwydrau oedd Brwydr Edgehill, Brwydr Marston Moor a Brwydr Naseby. Wedi i'w fyddin gael ei dinistrio gan y Seneddwyr yn Naseby a Langport, ffôdd y brenin at y fyddin Albanaidd yn Southwell, Swydd Nottingham ym mis Mai 1646, a daeth y Rhyfel Catref Cyntaf i ben.

En otros idiomas
беларуская (тарашкевіца)‎: Ангельская рэвалюцыя
Bahasa Indonesia: Perang Saudara Inggris
Lëtzebuergesch: Englesch Revolutioun
Bahasa Melayu: Perang Saudara England
Plattdüütsch: Ingelsche Börgerkrieg
srpskohrvatski / српскохрватски: Engleski građanski rat
Simple English: English Civil War
татарча/tatarça: Инглиз инкыйлабы
Tiếng Việt: Nội chiến Anh
中文: 英國內戰
Bân-lâm-gú: Eng-lân Lōe-chiàn