Rheolaeth awdurdod

O fewn byd y llyfrgell, rheolaeth awdurdod (Saesneg: authority control) ydy'r broses sy'n rhoi trefn ar gatalogi gwybodaeth drwy wahaniaethu rhwng fwy nag un person, lle, peth, syniad ayb o'r un enw a diffinio eitem arbennig mewn modd unigryw.[1][2] Daw'r enw o'r broses o 'awdurdodi' enwau pobl, llefydd, pethau, syniadau ayb i gategori arbennig.[3][4][5] Mae'r awdurdod yn unigryw i'r person neu'r peth, yn fath o ddynodwr neu ID ac yn cael ei roi mwn modd cyson drwy'r catalog cyfan.[6] Mae'r Awdurdod yn 'siarad' neu'n croesweithio gyda data cyffelyb, gan ddolennu a chroesgyfeirio.[6][7] Mae pob pennawd yn disgrifio'n fras ei sgop a'i ddefnydd ac yn helpu'r llyfgellydd i sicrhau mynediad rhwydd a chyfeillgar gan y defnyddiwr i fewn i'r wybodaeth a geisir.[8][9]

Rheolaeth awdurdod ar y Wicipedia Cymraeg

Tadogwyd erthyglau mewn dull arbennig a rydd i'r darllenydd wybodaeth arbennig o ffynonellau megis: Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol neu ORCID. Er enghraifft, ar waelod yr erthygl ar Saunders Lewis gwelir manylion fel hyn:

Awdurdod.PNG

Gellir canfod pob erthygl sydd â rheolaeth awdurdod wrth ei droed drwy agor y Categori:Tudalennau gyda gwybodaeth Awdurdod

En otros idiomas
العربية: ضبط استنادي
azərbaycanca: Normativ yoxlama
беларуская (тарашкевіца)‎: Нарматыўны кантроль
Deutsch: Normdatei
Esperanto: Norma datumaro
日本語: 典拠管理
한국어: 전거 통제
Bahasa Melayu: Kawalan kewibawaan
norsk nynorsk: Autoritetsdata
srpskohrvatski / српскохрватски: Normativna kontrola
Simple English: Authority control
slovenščina: Normativna kontrola
中文: 權威控制
Bân-lâm-gú: Sìn-kù khòng-chè