Rheolaeth

Diffinnir rheolaeth fel "y grefft o sicrhau fod gwaith yn cael ei wneud drwy bobl eraill". Mae dirprwyo gwaith felly yn rhan bwysig o sgìl y rheolwr/wraig, ond rhaid hefyd wrth y gallu i arwain, i ysbrydoli, ac i gymell eraill. Mae yna faes eang o ddamcaniaethau ynglŷn ag arweinyddiaeth, cymhelliant sydd yn dod o faes cymdeithaseg a seicoleg yn bennaf. Ffrancwr o'r enw Henri Fayol (1841-1925) oedd y cyntaf i ddechrau gwneud damcaniaeth am reolaeth ac yn ei farn ef pwrpas rheoli yw rhagweld, trefnu, gorchymyn a chydgysylltu, syniadau sy'n dod o faes y gad, gyda llawer o'r termau rheolaeth yn adlewyrchu hynny, termau milwrol megis " strategaeth", gorchymyn, arwain, ac ati. [1]

Hanes rheolaeth

Un o arloeswyr cynharaf y grefft neu'rr wyddor o heoli oedd Frederick Winslow Taylor (1856–1915) a oedd wedi astudio gwaith, amser a symudiadau (time and motion) ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Cafodd Taylor ddylanwad mawr ar ddiwydianwyr megis Henry Ford yn y modd yr oedd yn rheoli ei weithwyr. Roedd Taylor yn ei dro wedi derbyn nifer o syniadau Adam Smith yn ei lyfr The Wealth of Nations ynglŷn â rhaniad llafur wrth weithgynhyrchu. Datblygodd Taylor y syniad o raniad llafur gan gredu fod un ffordd iawn i wneud pobl dim.

Gelwir damcaniaethau Taylor yn ddamcaniaethau "clasurol rheoli" neu reoli gwyddonol. Datblygodd yr wyddor o reoli ymhellach gan Elton Mayo yn y 1930au pan gynhaliodd astudiaeth gymdeithasol yng ngwaith "Hawthorne" yr Western Eletric Company yn Cicero ger Chicago. Darganfu Mayo yn ystod ei astudiaeth fod pobl yn ymateb yn gadarnhaol pan fyddant yn cael sylw gan reolwyr. Damcaniaeth Elton Mayo yw bod gweithwyr ddim yn gweithio yn hollol fecanyddol fel y credai Taylor ond yn hytrach yn ymateb i'r grŵp maent yn gweithio ynddo a hefyd i sylw rheolwyr. Felly mae Mayo yn argymell gweithio mewn tîm neu grŵp dan arweiniad rheolwyr sydd yn cymryd sylw o'u hanghenion.

En otros idiomas
العربية: إدارة
অসমীয়া: ব্যৱস্থাপনা
asturianu: Alministración
azərbaycanca: Menecment
žemaitėška: Vadība
беларуская: Менеджмент
беларуская (тарашкевіца)‎: Мэнэджмэнт
български: Мениджмънт
brezhoneg: Management
bosanski: Menadžment
català: Gestió
čeština: Management
dansk: Ledelse
Deutsch: Management
Ελληνικά: Διαχείριση
English: Management
español: Administración
eesti: Juhtimine
euskara: Kudeaketa
فارسی: مدیریت
français: Management
עברית: ניהול
हिन्दी: प्रबन्धन
hrvatski: Menadžment
magyar: Menedzsment
Bahasa Indonesia: Manajemen
日本語: 経営管理論
ქართული: მენეჯმენტი
қазақша: Менеджмент
한국어: 경영
Кыргызча: Менеджмент
Limburgs: Bedriefsveuring
lietuvių: Vadyba
latviešu: Vadībzinība
македонски: Менаџмент
монгол: Менежмент
Bahasa Melayu: Pengurusan
Mirandés: Admenistraçon
မြန်မာဘာသာ: စီမံခန့်ခွဲခြင်း
नेपाली: व्यवस्थापन
Nederlands: Management
norsk: Ledelse
Norfuk / Pitkern: Manajement
polski: Zarządzanie
پښتو: سمبالښت
português: Administração
română: Management
русский: Менеджмент
sicilianu: Amministraturi
Scots: Management
srpskohrvatski / српскохрватски: Menadžment
Simple English: Management
slovenčina: Plánovanie
slovenščina: Menedžment
shqip: Menaxhimi
српски / srpski: Руковођење
svenska: Management
Kiswahili: Usimamizi
தமிழ்: மேலாண்மை
тоҷикӣ: Мудирият
Tagalog: Pamamahala
Türkçe: İşletme
українська: Менеджмент
اردو: نظامت
oʻzbekcha/ўзбекча: Menejment
Tiếng Việt: Quản lý
ייִדיש: פירערשאפט
中文: 管理学
Bân-lâm-gú: Koán-lí-ha̍k