Philharmonig Efrog Newydd

Leonard Bernstein gyda aelodau o Philharmonig Efrog Newydd mewn stiwdio teledu, 1959. Gyda chaniatad Bert Bial. Archifau Philharmonig Efrog Newydd.

Philharmonig Efrog Newydd ( Saesneg: New York Philharmonic) yw'r gerddorfa symffoni hynaf yn yr Unol Daleithiau sy'n dal i berfformio, a ffurfiwyd yn 1842. Wedi'i lleoli yn Ninas Efrog Newydd, mae'r Philharmonig yn perfformio'r rhan fwyaf o'i chyngerddau yn Neuadd Avery Fisher ac ers blynyddoedd lawer yn mwynhau'r enw o fod yn un o gerddorfeydd symffoni gorau yn y byd. Mae'n bedwar deg mlynedd yn hŷn nag unrhyw gerddorfa gyffelyb yn America ac yn hŷn na phob cerddorfa Ewropeaidd namyn dwy. Perfformiodd am y 14,000fed tro yn Rhagfyr 2004, gan osod record byd-eang.

Ei harweinydd cerddorfa enwocaf efallai oedd Leonard Bernstein.

Cyfarwyddwyr cerddoriaeth

  • 2002-heddiw Lorin Maazel
  • 1991-2002 Kurt Masur
  • 1978-1991 Zubin Mehta
  • 1971-1977 Pierre Boulez
  • 1969-1970 George Szell
  • 1958-1969 Leonard Bernstein
  • 1949-1958 Dimitri Mitropoulos
  • 1949-1950 Leopold Stokowski
  • 1947-1949 Bruno Walter
  • 1943-1947 Artur Rodzinski
  • 1936-1941 John Barbirolli
  • 1928-1936 Arturo Toscanini
  • 1922-1930 Willem Mengelberg
  • 1911-1923 Josef Stransky
  • 1909-1911 Gustav Mahler
  • 1906-1909 Wassily Safonoff
  • 1902-1903 Walter Damrosch
  • 1898-1902 Emil Paur
  • 1891-1898 Anton Seidl
  • 1877-1891 Theodore Thomas
  • 1876-1877 Leopold Damrosch
  • 1855-1876 Carl Bergmann
  • 1848-1865 Theodore Eisfeld
  • 1842-1847 Ureli Corelli Hill
Music template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy .
Flag-map of New York City.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ddinas Efrog Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy .
En otros idiomas