Nihiliaeth

Athrawiaeth neu ffordd o feddwl sy'n gwrthod pob egwyddor moesegol a chrefyddol yw Nihiliaeth. Ystyr lythrennol y term yw 'credu mewn dim'. Gwrthodir pob awdurdod, sefydliad a syniad sefydledig, ond oherwydd ei natur mae'n anodd ei diffinio. Mewn athroniaeth gellid dweud ei bod yn seiliedig ar sgeptigiaeth eithafol sy'n ymwrthod ag unrhyw werthoedd, cred mewn bodolaeth, gwerth cymdeithas, ac yn y blaen.

Defnyddir y term yn ogystal i gyfeirio at rai agweddau ar athroniaeth crefyddau'r Dwyrain, yn enwedig Bwdhiaeth a Hindŵaeth ascetig, fel dysgeidiaeth sy'n gwrthod realiti y byd sydd ohoni a phob byd arall fel rhith, ond nid yw'n perthyn i nihiliaeth yn yr ystyr fodern Orllewinol.

Datblygodd nihiliaeth law yn llaw ag anarchiaeth yn Rwsia a rhai o wledydd Dwyrain Ewrop yn y 19g a dechrau'r 20g. Credai llawer o nihilwyr ac anarchiaid y cyfnod hwnnw mewn defnyddio terfysgaeth i ddymchwel pob awdurdod.

En otros idiomas
Afrikaans: Nihilisme
العربية: عدمية
مصرى: عدميه
azərbaycanca: Nihilizm
беларуская: Нігілізм
беларуская (тарашкевіца)‎: Нігілізм
български: Нихилизъм
bosanski: Nihilizam
català: Nihilisme
کوردی: ھیچخوازی
čeština: Nihilismus
dansk: Nihilisme
Deutsch: Nihilismus
Zazaki: Nihilizm
Ελληνικά: Μηδενισμός
English: Nihilism
Esperanto: Neniismo
español: Nihilismo
eesti: Nihilism
euskara: Nihilismo
suomi: Nihilismi
français: Nihilisme
Gaeilge: Nihilí
贛語: 虛無主義
galego: Nihilismo
עברית: ניהיליזם
हिन्दी: निषेधवाद
hrvatski: Nihilizam
magyar: Nihilizmus
Հայերեն: Նիհիլիզմ
Bahasa Indonesia: Nihilisme
íslenska: Tómhyggja
italiano: Nichilismo
日本語: ニヒリズム
Patois: Niyilizim
ქართული: ნიჰილიზმი
қазақша: Нигилизм
한국어: 허무주의
Кыргызча: Нигилизм
Latina: Nihilismus
lietuvių: Nihilizmas
latviešu: Nihilisms
македонски: Нихилизам
മലയാളം: നിഹിലിസം
Bahasa Melayu: Nihilisme
Nedersaksies: Nihilisme (filosofie)
norsk nynorsk: Nihilisme
norsk: Nihilisme
occitan: Niilisme
ਪੰਜਾਬੀ: ਨਹਿਲਵਾਦ
polski: Nihilizm
português: Niilismo
română: Nihilism
русский: Нигилизм
русиньскый: Нігілізм
Scots: Nihilism
srpskohrvatski / српскохрватски: Nihilizam
Simple English: Nihilism
slovenčina: Nihilizmus
shqip: Nihilizmi
српски / srpski: Нихилизам
svenska: Nihilism
Tagalog: Nihilismo
Türkçe: Nihilizm
українська: Нігілізм
oʻzbekcha/ўзбекча: Nigilizm
Tiếng Việt: Chủ nghĩa hư vô
მარგალური: ნიჰილიზმი
中文: 虚无主义
粵語: 虛無主義