Marcus Antonius

Marcus Antonius

Gwleidydd a chadfridog Rhufeinig oedd Marcus Antonius (c. 14 Ionawr, 83 CC- 1 Awst 30 CC). Fel Mark Antony, mae'n gymeriad pwysig yn nramâu William Shakespeare.

Ganed ef yn Rhufain, yn fab i Marcus Antonius Creticus. Dywedir iddo fyw'n wyllt yn ei ieuengctid, ac yn ôl Plutarch roedd mewn dyled o 250 talent (gwerth rhai miliynau o bunnau) cyn bod yn ugain oed. Bu raid iddo ffoi i Wlad Groeg, lle bu'n astudio rhethreg. Dangosodd ei fod yn arweinydd milwrol galluog mewn ymgyrch yn erbyn Aristobulus yn Iudaea, ac yna o 54 CC fel cynorthwydd i Iŵl Cesar yn ei ymgyrch i goncro Gâl. Daeth yn un o gefnogwyr amlycaf Cesar, a bu'n ddirpwy iddo yn ystod y rhyfel cartref a ddechreuodd wedi i Gesar groesi Afon Rubicon. Wedi i Gesar gymeryd meddiant o Rufain, parhaodd Antonius fel ei ddirprwy. Cyhoeddodd Cicero gyfres o ymosodiadau deifiol arno yn y Philippicau.

Ar 15 Chwefror 44 CC, yn ystod gŵyl y Lupercalia, cynigiodd Antonius goron i Cesar yn gyhoeddus. Gwrthododd Cesar y cynnig, gan ddangos nad oedd yn bwriadu dod yn frenin. Fis yn ddiweddarach, llofruddiwyd Cesar, a cyn hir bu rhyfel cartref eto, gyda Marcus Antonius yn arwain pleidwyr Cesar yn erbyn y gweriniaethwyr oedd wedi bod a rhan yn ei lofruddio. Yn 42 CC, ymladdwyd Brwydr Philippi rhwng Antonius ac Octavianus a dau o lofruddion Cesarn Gaius Cassius Longinus a Marcus Junius Brutus. Mewn gwirionedd roedd dwy frwydr, gyda thair wythnos rhyngddynt. Ym Mrwydr Gyntaf Philippi ar 3 Hydref, 42 CC, llwyddodd Brutus i orchfygu byddin Octavianus, ond gorchfygwyd byddin Cassius gan Marcus Antonius. Gan gredu fod Brutus hefyd wedi colli'r dydd, lladdodd Cassius ei hun. Ymladdwyd Ail Frwydr Philippi ar 23 Hydref, a gorchfygwyd Brutus gan Antonius ac Octavianus. Lladdodd Brutus ei hun, ac wedi clywed y newyddion, lladdodd ei wraig Porcia ei hun hefyd.

Ffurfiodd Antonius bartneriaeth ag Octavianus ("Augustus" yn ddiweddarach) a Marcus Aemilius Lepidus. Gofynnodd Antonius am gymorth gan Cleopatra, brenhines yr Aifft, ond gwrthododd hi ymyrryd. Teithiodd Antonius i'r Aifft i'w chyfarfod yn 41 CC, a syrthiodd y ddau mewn cariad. Penderfynodd Antonius aros yn yr Aifft am gyfnod, nes iddo gael ei orfodi i ddychwelyd i Rufain. Yn fuan wedyn ganwyd dau efaill iddo ef a Cleopatra, Cleopatra Selene ac Alecsander Helios. Yn 36 CC teithiodd Antonius i'r dwyrain i ymladd yn erbyn y Parthiaid. Aeth Cleopatra gydag ef, a ganwyd eu trydydd plentyn, Ptolemi Filadelfos. Bu'r ymgyrch yn llwyddiant mawr, a dychwelodd y ddau i Alexandria.

Roedd perthynas Antonius gydag Octavianus (a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach dan yr enw Augustus), ei frawd-yng-nghyfraith, wedi dirywio erbyn hyn. Yn 33 CC, daeth diwedd ar y bartneriaeth rhyngddynt. Yn 32 CC aeth yn rhyfel rhwng Octavianus ac Antonius a Cleopatra. Ym Mrwydr Actium yn 31 CC gorchfygwyd llynges Antonius a Cleopatra gan lynghesydd Octavianus, Marcus Vipsanius Agrippa, a lladdodd Antonius ei hun. Ychydig yn ddiweddarach, lladdodd Cleopatra ei hun hefyd.

Plant

  1. Gyda Fulvia:
    • Marcus Antonius Antyllus, dienyddiwyd gan Octavianus yn 30 CC
    • Iullus Antonius Creticus
  2. Gyda Octavia Minor, chawer Octavianus, yn ddiweddarach Augustus:
    • Antonia Major, priododd Lucius Domitius Ahenobarbus; nain yr ymerawdwr Nero
    • Antonia Minor, priododd Drusus, mab Livia; mam yr ymerawdwr Claudius a nain yr ymerawdwr Caligula.
  3. Gyda Cleopatra:
    • Alexander Helios
    • Cleopatra Selene II, priododd Juba II brenin Numidia ac yn ddiweddarach Mauretania
    • Ptolemy Philadelphus.
En otros idiomas
Afrikaans: Marcus Antonius
Alemannisch: Marcus Antonius
azərbaycanca: Mark Antoni
беларуская: Марк Антоній
български: Марк Антоний
brezhoneg: Marcus Antonius
bosanski: Marko Antonije
català: Marc Antoni
čeština: Marcus Antonius
English: Mark Antony
Esperanto: Marko Antonio
español: Marco Antonio
euskara: Marko Antonio
français: Marc Antoine
hrvatski: Marko Antonije
Bahasa Indonesia: Markus Antonius
íslenska: Marcus Antonius
italiano: Marco Antonio
Basa Jawa: Mark Antony
қазақша: Марк Антоний
Кыргызча: Антоний Марк
lietuvių: Markas Antonijus
latviešu: Marks Antonijs
монгол: Марк Антони
Bahasa Melayu: Marcus Antonius
Plattdüütsch: Marcus Antonius
Nederlands: Marcus Antonius
português: Marco Antônio
română: Marc Antoniu
русский: Марк Антоний
srpskohrvatski / српскохрватски: Marko Antonije
Simple English: Mark Antony
slovenčina: Marcus Antonius
slovenščina: Mark Antonij
српски / srpski: Марко Антоније
Seeltersk: Marcus Antonius
Türkçe: Marcus Antonius
татарча/tatarça: Марк Антоний
українська: Марк Антоній
oʻzbekcha/ўзбекча: Antoniy Mark
Tiếng Việt: Marcus Antonius
Yorùbá: Mark Antony