Ji-binc

Ji-binc
Ceiliog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Fringillidae
Genws: Fringilla
Rhywogaeth: F. coelebs
Enw deuenwol
Fringilla coelebs
Linnaeus, 1758

Mae'r Ji-binc (Fringilla coelebs) yn perthyn i'r teulu Fringillidae. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, rhannau o orllewin Asia a gogledd-orllewin Affrica.

Mae'n nythu mewn coedydd neu gymysgedd o goedydd a chaeau. Adeiledir y nyth mewn coeden, ac mae'n dodwy tua chwech wy. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond yn y rhannau hynny lle mae'r gaeafau'n oer mae'n symud tua'r de a thua'r gorllewin. Tu allan i'r tymor nythu gall yngasglu yn heidiau o gannoedd ambell dro.

Mae'r ceiliog yn aderyn cyfarwydd a hawdd ei adnabod, gyda cap llwyd ar y pen a'r fron a'r bol yn binc neu goch. Nid yw'r iâr mor lliwgar, gyda'r plu yn llwydfrown yn bennaf, ond mae'n dal yn hawdd ei hadnabod. Mae'r Ji-binc rhwng 14 a 16 cm o hyd. Hadau yw'r prif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed.

Daw'r enw Ji-binc o alwad yr aderyn. Mae'r gân hefyd yn adnabyddus. Mae'r Ji-binc yn un o adar mwyaf cyffredin Cymru.

Iâr
Fringilla coelebs
En otros idiomas
Afrikaans: Gryskoppie
Alemannisch: Buchfink
العربية: حسون الظالم
башҡортса: Алағанат турғай
беларуская: Берасцянка
brezhoneg: Pint (evn)
català: Pinsà
corsu: Pincionu
čeština: Pěnkava obecná
kaszëbsczi: Wiszónk
Чӑвашла: Пимпĕ
dansk: Bogfinke
Deutsch: Buchfink
Ελληνικά: Κοινός σπίνος
Esperanto: Fringo
eesti: Metsvint
euskara: Txonta arrunt
suomi: Peippo
føroyskt: Bókígða
Nordfriisk: Bokfink
Gaeilge: Rí rua
Gàidhlig: Breacan-beithe
עברית: פרוש מצוי
magyar: Erdei pinty
Հայերեն: Ամուրիկ
interlingua: Fringilla coelebs
íslenska: Bókfinka
ქართული: ნიბლია
Адыгэбзэ: Румат
қазақша: Жаурауық
Kurdî: Befrîk
Lëtzebuergesch: Poufank
Limburgs: Bookvink
lietuvių: Kikilis
latviešu: Žubīte
македонски: Обична ѕвингалка
кырык мары: Пимба
Napulitano: Frungillo
नेपाली: चित्रकचरी
Nederlands: Vink (vogel)
norsk nynorsk: Bokfink
norsk: Bokfink
Livvinkarjala: Peiboi
Picard: Pinchon
Piemontèis: Fringilla coelebs
português: Fringilla coelebs
română: Cinteză
русский: Зяблик
русиньскый: Зяблик
саха тыла: Эриэн кынат
Scots: Shilfie
davvisámegiella: Beibboš
slovenčina: Pinka obyčajná
српски / srpski: Зеба
svenska: Bofink
українська: Зяблик
vèneto: Finco
Tiếng Việt: Sẻ khướu
West-Vlams: Vienke
中文: 苍头燕雀