Harri VIII, brenin Lloegr

Brenin Harri VIII, llun gan Hans Holbein yr Ieuaf

Brenin Lloegr o 22 Ebrill 1509 hyd ei farwolaeth oedd Harri VIII ( 28 Mehefin 149128 Ionawr 1547). Roedd hefyd yn Arglwydd Iwerddon ( Brenin Iwerddon yn ddiweddarach) ac yn hawliwr ar deyrnas Ffrainc. Harri oedd yr ail deyrn yn Nhŷ'r Tuduriaid, gan olynu ei dad, Harri VII.

Yn nheyrnasiad Harri VIII penderfynwyd 'uno' Cymru a Lloegr fel uned gyfreithiol (gweler Deddfau Uno 1536 a 1543).

Harri VIII a sefydlodd Eglwys Loegr. Ar ei orchymyn ef diddymwyd y mynachlogydd yng Nghymru a Lloegr yn 1537.

Blynyddoedd cynnar: 1491–1509

Ganwyd Harri VIII ym Mhalas Greenwich, ger Llundain, yn drydydd plentyn i Harri VII, brenin Lloegr ac Elisabeth o Efrog. [1] Dim ond tri o frodyr neu chwiorydd Harri a oroesodd plentyndod, sef Arthur, Tywysog Cymru, Marged a Mari; y rhai a fu farw oedd Elisabeth Tudur, Edmwnd Tudur, Dug Somerset a Catherine Tudur. Ym 1493, ag yntau'n ddeuflwydd oed, apwyntwyd Harri yn Gwnstabl Castell Dover ac Arglwydd Warden y Cinque Ports. Ym 1494, crewyd yn Ddug Efrog. Apwyntwyd yn ddiweddarach yn Iarll Marsial Lloegr ac Arglwydd Raglaw Iwerddon. Derbyniodd Harri addysg o'r safon uchaf gan diwtoriaid blaengar, gan ddod yn rhugl mewn Lladin, Ffrangeg a Sbaeneg. [2] Gan y disgwylwyd i'w frawd hŷn, y Tywysog Arthur, etifeddu'r orsedd, paratowyd Harri ar gyfer gyrfa yn yr eglwys. [3]

Marwolaeth Arthur

Catrin yn weddw ifanc gan Michael Sittow, tua 1502.

Ym 1502, bu farw Arthur yn 15 oed. Wedi ei farwolaeth, disgynodd ei ddyletswyddau i Harri, a ddaeth yn Dywysgo Cymru. Ail-gydiodd Harri VII yn ei ymdrechion i greu cynghrair rhwng Lloegr a Sbaen odan sêl priodas, gan gynnig Harri yn ŵr i gweddw Arthur, Catrin o Aragón, sef plentyn ifengaf a oroesodd i Fernando II, brenin Aragón a Isabel I, brenhines Castilla. [4]

Fel arfer, er mwyn i'r tywysog newydd briodi gweddw ei frawd, buasai'n rhaid gwneud cais am ollyngiad gan y Pab er mwyn goruwchreoli y rhwystr o affinedd, fel y dywed yn llyfr Lefiticus "Os bydd brawd yn priodi gwraig ei frawd byddent yn aros yn ddi-blant". Mynodd Catrin nad oedd ei phriodas â'r tywysog Arthur wedi cael ei gyflawni. Ond, cytunodd Lloegr a Sbaen y buasai gollyngiad gan y Pab yn ddoeth er mwyn cael gwared ar unrhyw amheuaeth ynglyn â chyfreithlondeb y briodas.

Achosodd di-amyneddgaraeth mam Catrin, y Frenhines Isabel I, i'r Pab Iŵl II addef gollyngad ar ffurf Bwla Pabaidd. Felly, 14 mis wedi marwolaeth Arthur roedd Catrin a Harri am briodi, ond erbyn 1505, roedd Harri VII wedi colli diddordeb yn y gynghrair, a datganodd yr Harri ifengaf fod y briodas wedi cale ei drefnu heb ei gytundeb.

Parhaodd symudiadau diplomyddol ynglyn a tynged y briodas a gynnigwyd hyd marwolaeth Harri VII ym 1509. Priododd Harri â Catrin, ag yntau ond yn 17 oed, ar 11 Mehefin 1509, a coronwyd y ddau ar 24 Mehefin 1509, yn Abaty San Steffan.

En otros idiomas
azərbaycanca: VIII Henri
Bikol Central: Hadeng Enrique VIII
беларуская: Генрых VIII
беларуская (тарашкевіца)‎: Генрых VIII
български: Хенри VIII
eesti: Henry VIII
français: Henri VIII
Հայերեն: Հենրի VIII
Bahasa Indonesia: Henry VIII dari Inggris
íslenska: Hinrik 8.
ქართული: ჰენრი VIII
한국어: 헨리 8세
Lëtzebuergesch: Henry VIII. vun England
lietuvių: Henrikas VIII
македонски: Хенри VIII
norsk nynorsk: Henrik VIII av England
русский: Генрих VIII
संस्कृतम्: हेनरी ८
srpskohrvatski / српскохрватски: Henry VIII od Engleske
Simple English: Henry VIII of England
slovenčina: Henrich VIII.
slovenščina: Henrik VIII. Angleški
српски / srpski: Хенри VIII Тјудор
Kiswahili: Henry VIII
Türkçe: VIII. Henry
Tiếng Việt: Henry VIII của Anh
中文: 亨利八世
Bân-lâm-gú: Henry 8-sè (Eng-lân)
粵語: 亨利八世