Harri VII, brenin Lloegr

Harri Tudur, y cyntaf o frenhinlin y Tuduriaid
Arfau Harri cyn ei goroni'n frenin.
Arfau Harri, wedi ei goroni'n frenin.
Castell Penfro lle ganwyd Harri VII yn 1457.
Trosglwyd Siasbar a Harri (a oedd yn 15 oed) o Château de l'Hermine i Château de Suscinio, Morbihan, Llydaw yn Hydref 1472.

Roedd Harri Tudur ( Saesneg Henry Tudor), y brenin Harri VII o Loegr ( 28 Ionawr 1457 - 21 Ebrill 1509), yn frenin teyrnas Lloegr o 1485 hyd at ei farwolaeth. Mab Edmwnd Tudur, un o feibion Owain Tudur a Margaret Beaufort oedd Harri; roedd Siasbar Tudur yn frawd i'w dad. Yng nghastell Penfro, pencadlys ei ewythr Siasbar yn Sir Benfro, de-orllewin Cymru, y cafodd ei eni a'i fagu.

Daeth yn frenin Lloegr yn 1485 ar ôl ennill brwydr Bosworth a churo'r brenin Rhisiart III a laddwyd ar y maes ar ôl y frwydr. Cynrychiolai blaid y Lancastriaid yn erbyn yr Iorciaid yn rhan olaf Rhyfeloedd y Rhosynnau. Ond llwyddodd i uno'r ddwy blaid a rhoi terfyn ar y rhyfel drwy briodi aeres Iorcaidd - Elisabeth o Efrog. Bregus iawn oedd ei hawl i fod yn frenin Lloegr, ond medrai aros mewn grym drwy ei ddoniau gwleidyddol. Llwyddodd i greu perthynas dda rhwng Lloegr â'r Alban drwy drefnu priodas ei ferch Marged â'r brenin Iago IV, brenin yr Alban.

Elisabeth o Efrog oedd ei wraig.

Harri'r Cymro

Defnyddiodd ei gysylltiadau teuluol â Chymru i ennill cefnogaeth y Cymry i'w ymgyrch i gipio'r goron, ond ni ddefnyddiodd ei ddylanwad wedyn i adfer ymreolaeth y Cymry. Roedd y Cymry a'i dilynodd i faes Bosworth yn gobeithio mai Harri oedd y Mab Darogan - fel Owain Lawgoch ac Owain Glyn Dŵr o'i flaen - a fyddai'n adfer Ynys Brydain i'r Brythoniaid, sef y Cymry. Erys ar glawr nifer o gerddi darogan neu frudiau o'r cyfnod hwnnw sy'n dangos mor angerddol oedd y gobaith fod yr amser hir-ddisgwyliedig wedi dod. Wythfed rhan o Gymro o ran ei waed oedd Harri ac nid oes sicrwydd ei fod yn medru siarad Cymraeg er iddo gael ei fagu yn y castell ym Mhenfro. Treulio cyfnod mewn alltudiaeth yn Llydaw. Yn ôl yr hanesydd Chris Skidmore, fodd bynnag, fe'i nyrsiwyd am flynyddoedd gan wraig Philip ap Howel o Gaerfyrddin a fyddai "fwy na thebyg" wedi ei ddysgu i ddeall a siarad Cymraeg'. Rhaid cofio hefyd, er mai Iorcydd oedd yn rheoli'r rhan fwyaf o Dde Cymru yr adeg honno, gan gynnwys Castell Penfro, sef William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469), ei fod yn ŵr diwylliedig iawn, ac yn dipyn o arwr i Feirdd yr Uchelwyr fel Guto'r Glyn. [1] Mae Skidmore yn ei alw'n 'Gymro' drwy gydol ei waith. [2]

Mewn llythyr gan Louis XI at Guillaume Compaing, deon o Orleans, dywedodd Louis dro ar ôl tro (gan gyfeirio at ei ymosodiad aflwyddiannus gyda Siasbar, pan laniodd tair llong Ffrengig yn aber yr afon Dyfi): Pe bai Siasbar yn dymuno dychwelyd i Gymru i adennill ei diroedd yna byddai'n cael ffafrau (gen i) i gyflawni hynny, a sawl tro bu pwysau arno gan bobl yng Nghymru i wneud hynny.... Rhoddodd y Brenin (Ffrainc) pob ffafr posibl iddo wneud hynny oherwydd clymiadau teuluol agos, fel y gallai adennill, cadw ac amddiffyn ei ystadau a'i diroedd yng Nghymru. Nid unwaith y sonia'r y Brenin mai ymosodiad ar Loegr ydoedd. Barn rhai haneswyr o Loegr yw nad oedd llinach Gymreig Harri wedi chwarae unrhyw ran ym Mrwydr Bosworth a gorseddu Harri yn Frenin Lloegr. [3]

En otros idiomas
azərbaycanca: VII Henri
беларуская: Генрых VII Цюдар
беларуская (тарашкевіца)‎: Генрых VII (кароль Ангельшчыны)
български: Хенри VII
Esperanto: Henriko la 7-a
eesti: Henry VII
Bahasa Indonesia: Henry VII dari Inggris
ქართული: ჰენრი VII
한국어: 헨리 7세
lietuvių: Henrikas VII
македонски: Хенри VII
संस्कृतम्: हेन्री ७
srpskohrvatski / српскохрватски: Henry VII od Engleske
Simple English: Henry VII of England
српски / srpski: Хенри VII Тјудор
Türkçe: VII. Henry
Tiếng Việt: Henry VII của Anh
Bân-lâm-gú: Henry 7-sè (Eng-lân)
粵語: 亨利七世