Genws

Lefelau dosbarthiad biolegol Rhywogaeth Genws Teulu Urdd Dosbarth Ffylwm Teyrnas Parth Bywyd

Magnify-clip.png
Y prif rengoedd mewn dosbarthiad biolegol.

Rheng tacson yw genws (lluosog: genera, genysau) neu dylwyth a ddefnyddir i ddosbarthu'n wyddonol organebau byw ( anifeiliaid, planhigion ayb). Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffosiliau ac organebau a ddifodwyd o fewn bywydeg.

Yn hierarchaeth y dosbarthu, mae genws yn uwch na rhywogaeth ac yn is na theulu. O ran enwau deuol, mae genws yn ffurfio rhan gyntaf enw'r rhywogaeth e.e. mae Felis catus a Felis silvestris yn ddwy rywogaeth wahanol o fewn y genws Felis. Mae Felis, felly'n genws o fewn y teulu Felidae.

Mae'r union ddosbarthiad yn cael ei benderfynu gan dacsonomegwyr. Nid yw'r dosbarthiadau hyn wedi'u naddu mewn gwenithfaen, ac mae awdurdodau gwahanol yn aml yn nodi dosbarthiad gwahanol ar gyfer y genera. Ceir canllawiau ymarferol, fodd bynnag, er mwyn cysoni'r gwaith, [1] gan gynnwys y cysyniad y dylai unrhyw genws newydd fod yn driw i'r tri maen prawf canlynol:

  1. monophyly – rhoddir holl ddisgynyddion tacson mewn un grŵp [2]
  2. cywasgu rhesymol - ni ddylid ehangu'r genws yn ddiangen
  3. eglureder - fel arfer, yng nghyd-destun meini prawf sy'n ymwneud ag esblygiad, e.e. ecoleg, morffoleg neu bioddaearyddiaeth, ystyrir 'dilyniant y DNA' yn "ganlyniad" yn hytrach nag yn "gyflwr" llinellau newydd sy'n esblygu. [3]

Geirdarddiad

O'r Lladin y daw'r term genws ("ffynhonnell; math; grŵp; cenedl"), [4], enw sy'n gytras â gignere ("beichiogi; geni"). Linnaeus a wnaeth y gair yn boblogaidd, a hynny yn 1753 pan gyhoeddodd Species Plantarum, ond ystyrir y botanegydd Joseph Pitton de Tournefort (1656–1708) fel sylfaenydd y cysyniad modern o genera. [5]

En otros idiomas
Afrikaans: Genus
Alemannisch: Gattung (Biologie)
العربية: جنس (تصنيف)
башҡортса: Ырыу (биология)
беларуская: Род (біялогія)
беларуская (тарашкевіца)‎: Род (біялёгія)
български: Род (биология)
brezhoneg: Genad
bosanski: Rod (biologija)
čeština: Rod (biologie)
dolnoserbski: Rod (biologija)
English: Genus
Esperanto: Genro (biologio)
فارسی: سرده
français: Genre (biologie)
Gaeilge: Géineas
Avañe'ẽ: Jueheguaty
Gaelg: Genus
hornjoserbsce: Ród (biologija)
Bahasa Indonesia: Genus
Ido: Genero
日本語: 属 (分類学)
Basa Jawa: Gènus
한국어: 속 (생물학)
Kurdî: Cins
Кыргызча: Уруу (биология)
Lëtzebuergesch: Gattung (Biologie)
Baso Minangkabau: Genus
македонски: Род (биологија)
മലയാളം: ജീനസ്
Bahasa Melayu: Genus
မြန်မာဘာသာ: မျိုးစု
Plattdüütsch: Geslecht (Biologie)
norsk nynorsk: Biologisk slekt
Kapampangan: Genus
Piemontèis: Géner
português: Género (biologia)
Runa Simi: Rikch'ana
română: Gen (biologie)
русиньскый: Род (біолоґія)
саха тыла: Уус (биология)
Scots: Genus
srpskohrvatski / српскохрватски: Rod (taksonomija)
Simple English: Genus
slovenčina: Rod (taxonómia)
slovenščina: Rod (biologija)
српски / srpski: Род (биологија)
Basa Sunda: Génus
svenska: Släkte
Kiswahili: Jenasi
తెలుగు: ప్రజాతి
Tagalog: Sari
Türkçe: Cins
татарча/tatarça: Ыруг (биология)
українська: Рід (біологія)
اردو: جنس
oʻzbekcha/ўзбекча: Urugʻ (zoologiya)
Tiếng Việt: Chi (sinh học)
Winaray: Genus
მარგალური: გვარი (ბიოლოგია)
中文:
粵語: