Ganymede (mytholeg)

Zeus (yn rhith eryr) a Ganymede. Darganfuwyd ar safle dinas Carthago, ger Tunis, Tiwnisia

Bachgen ym mytholeg Roeg a ddaeth yn un o gariadon y duw Zeus oedd Ganymede (hefyd Ganymedes). Mae ei chwedl wedi cael ei bortreadu sawl gwaith gan artistiaid o'r cyfnod Clasurol hyd heddiw.

Bachgen golygus o Phrygia yn Asia Leiaf, yn fab i Tros ac yn frawd i Ilus, sefydlwyr chwedlonol Caerdroia, oedd Ganymede (ond yn ôl Lucian roedd yn fab i Dardanus).

Gwelodd Zeus ef yn hela gyda'i gymdeithion ar lethrau Mynydd Ida a syrthiodd mewn cariad ag ef. Disgynnodd arno yn rhith eryr a'i dwyn i'r nefoedd. Yn Olympus, daeth yn was cwpan Zeus yn lle Hebe. Fe'i portreadir yng ngweithiau celf yr Henfyd yn cael ei anwesu gan Zeus yn rhith yr eryr (un o'i symbolau pennaf).

Enwir Ganymede, un o loerennau'r blaned Iau, ar ei ôl.

  • ffynhonnell

Ffynhonnell

  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Draig.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy
En otros idiomas
Alemannisch: Ganymedes
العربية: غانيمادس
башҡортса: Ганимед
Boarisch: Ganymed
беларуская: Ганімед
brezhoneg: Ganymedes
čeština: Ganymédés
eesti: Ganymedes
فارسی: گانومده
français: Ganymède
עברית: גנימדס
հայերեն: Գանիմեդես
Bahasa Indonesia: Ganimede
íslenska: Ganymedes
la .lojban.: .ganymidis.
한국어: 가니메데스
Latina: Ganymedes
Lëtzebuergesch: Ganymed (Mythologie)
lietuvių: Ganimedas
мокшень: Ганимед
Malagasy: Ganymède
മലയാളം: ഗാനിമിഡെ
português: Ganímedes
русский: Ганимед
srpskohrvatski / српскохрватски: Ganimed (mitologija)
Simple English: Ganymede (mythology)
slovenčina: Ganymédes
slovenščina: Ganimed
svenska: Ganymedes
українська: Ганімед