Fine Gael

logo Fine Gael, 2016
Logo Fine Gael

Fine Gael – The United Ireland Party, neu Fine Gael (Gwyddeleg am Deulu neu Dylwyth y Gwyddelod) yw'r ail blaid wleidyddol fwyaf yng Ngweriniaeth Iwerddon ar ôl Fianna Fail. Mae'n hawlio aelodaeth o 30,000,[1] Fine Gael oedd y blaid fwyaf yn etholiad cyffredinnol 2011 gan ffurfio Llywodraeth âr Blaid Lafur yn yr 31 Mawrth 2011 yn yr hyn a elwir yn 31ain Dáil Éireann (senedd Gweriniaeth Iwerddon).

Sefydlwyd Fine Gael ar 3 Medi 1933 ar ôl uno ei mam-blaid Cumann na nGaedhael, y Centre Party a'r Army Comrades Association, neu'r "Blueshirts".[2] Gorwedd ei gwreiddiau yn Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon a'r pleidiau a fu o blaid y Cytundeb Eingl-Wyddelig yn Rhyfel Cartref Iwerddon, gan uniaethu yn enwedig â Michael Collins fel sefydlydd y mudiad.[3]

Mae'r Fine Gael fodern yn ei disgrifio ei hun fel plaid y canol progresif, a'i gwerthoedd canolog yn seiliedig ar bolisi ariannol gofalus, hawliau a dyletswyddau'r unigolyn a'r farchnad rydd. Maent yn gadarn o blaid integreiddio yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn gwrthwynebu gweriniaetholaeth Wyddelig dreisgar. Mewn cyd-destun ehangach, mae'r blaid yn perthyn i sbectrwm y pleidiau Democratiaeth Gristnogol yn Ewrop.[4] Fine Gael yw'r unig blaid Wyddelig sy'n rhan o Blaid Pobl Ewrop (EPP) yn Strasbourg; mae ei ASEau yn eistedd yn y grwp EPP-ED. Ffurfiwyd adain ieuenctid y blaid, Young Fine Gael, ym 1977 ac mae ganddi tua 4,000 o aelodau.[5]

Daeth Enda Kenny yn arweinydd as 5 Mehefin 2002.[6] Roedd Kenny yn Taoiseach y Weriniaeth rhwng 2011-2017. Arweinydd gyfredol Fine Gael a'r toaiseach gyfredol yw Leo Varadkar.

En otros idiomas
العربية: فاين جايل
asturianu: Fine Gael
български: Фине Гейл
català: Fine Gael
čeština: Fine Gael
dansk: Fine Gael
Deutsch: Fine Gael
Ελληνικά: Φάιν Γκέιλ
English: Fine Gael
Esperanto: Fine Gael
español: Fine Gael
euskara: Fine Gael
suomi: Fine Gael
français: Fine Gael
Gaeilge: Fine Gael
Gàidhlig: Fine Gael
galego: Fine Gael
Gaelg: Fine Gael
hrvatski: Fine Gael
Bahasa Indonesia: Fine Gael
italiano: Fine Gael
한국어: 피너 게일
Bahasa Melayu: Fine Gael
Nederlands: Fine Gael
norsk: Fine Gael
polski: Fine Gael
português: Fine Gael
română: Fine Gael
русский: Фине Гэл
sicilianu: Fine Gael
svenska: Fine Gael
українська: Фіне Гел
Tiếng Việt: Fine Gael