Ffwlbart

Ffwlbart
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Mustelidae
Genws: Mustela
Rhywogaeth: M. putorius
Enw deuenwol
Mustela putorius
Linnaeus, 1758

Mamal cigysol o deulu'r wenci, Mustelidae, yw'r ffwlbart (Mustela putorius). Fe'i ceir yng nghoedydd, ffermdir a gwlyptiroedd ar draws Ewrop. Mae'n bwydo ar gwningod, cnofilod, llyffantod ac infertebratau. Hynafiad gwyllt y ffured dof yw ef.

Mae ei gorff a'i ben yn 20–46 cm o hyd ac mae ei gynffon yn 7–15 cm. Mae ganddo ffwr brown tywyll gyda blew melyn ar ei ystlysau a phatrwm du a gwyn trawiadol ar ei wyneb. Mae'n greadur swil iawn ac i'w weld allan yn y nos; mae'n nofiwr cry sy'n gallu dal pysgod ond mamaliaid bychan yw ei fwyd fel arfer.

Yng Nghymru

(Mustela putorius), yn gyffredin trwy Brydain ar un adeg ond yn gyfyngedig i Eryri a Chanolbarth Cymru erbyn dechrau'r 20g. Wrth i gipera leihau o'r 1920au, a thrapio cwningod leihau o'r 1950au cynyddodd yn gyflym. Goroesodd y rhywogaeth yng Nghymru gan ymledu trwy ganolbarth Lloegr a cheir niferoedd cynyddol yn Lloegr a'r Alban heddiw. Fe'i croeswyd â'r ffured ddof i greu'r “ffured ddu” sy'n ddiguro ar gyfer hela cwningod a difa llygod mawr. Dywedir: “yn drewi fel ffwlbart”, “yn ddiog fel ffwlbart”.

Ar ddechrau'r 21g credir fod dros 17,000 ohonynt yng Nghymru.

En otros idiomas
aragonés: Mustela putorius
žemaitėška: Šešks
беларуская: Лясны тхор
беларуская (тарашкевіца)‎: Тхор лясны
български: Черен пор
català: Turó comú
čeština: Tchoř tmavý
kaszëbsczi: Zwëczajny twórz
Чӑвашла: Хура пăсара
dansk: Ilder
Esperanto: Putoro
eesti: Tuhkur
euskara: Ipurtats
suomi: Hilleri
français: Mustela putorius
Nordfriisk: Elk
Frysk: Murd
Gaeilge: Cat coille
galego: Furón bravo
hrvatski: Tvor
interlingua: Mustela putorius
Ido: Putoro
ქართული: ქრცვინი
한국어: 긴털족제비
Kurdî: Bûkink
latgaļu: Meža saskys
latviešu: Meža sesks
македонски: Твор
Nedersaksies: Ulk
Nederlands: Bunzing
norsk nynorsk: Ilder
norsk: Ilder
Picard: Fuchioe
português: Tourão
rumantsch: Telpi
română: Dihor
русский: Лесной хорёк
Scots: Foumart
srpskohrvatski / српскохрватски: Mustela putorius
slovenčina: Tchor tmavý
slovenščina: Evropski dihur
српски / srpski: Твор
Seeltersk: Ulk
svenska: Iller
удмурт: Бызара
українська: Тхір лісовий
Tiếng Việt: Chồn hôi châu Âu
West-Vlams: Fiesjow
walon: Vexhåd
ייִדיש: אילטיס
中文: 歐洲鼬
粵語: 歐洲鼬