Ffranciaid

Roedd y Ffranciaid (Lladin: Franci neu gens Francorum) yn wreiddiol yn nifer o lwythau Almaenig a ddaeth at ei gilydd mewn cynghrair, yn cynnwys y Saliaid, Sicambri, Chamavi, Tencteri, Chattuarii, Bructeri, Usipetes, Ampsivarii a’r Chatti. Roeddynt yn byw ar lannau gogledd-ddwyreiniol Afon Rhein, a chawsant eu defnyddio fel foederati gan yr ymerawdwr Rhufeinig Julian (358). Yn ddiweddarch llwyddasant i greu teyrnas dan yr enw Francia) mewn ardal sy’n cynnwys Ffrainc a rhan orllewinol yr Almaen. Mae 'Ffrainc' yn cymeryd ei henw oddi wrthynt. Daethant yn Gristionogion tua diwedd y 5g.

Arferiad y Ffranciaid, fel y Tywysogion a'r Brenhinoedd Cymreig, ar farwolaeth brenin oedd rhannu’r deyrnas rhwng ei feibion, felly rhannwyd Francia nifer o weithiau.

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth am y Ffranciaid yn dod oddi wrth Gregori o Tours, a ysgrifennodd ei Historia Francorum (Hanes y Ffranciaid) am y cyfnod hyd 594. Cofnodir i’r Ffranciaid ymosod ar yr Ymerodraeth Rufeinig yn 250 a chyrraedd cyn belled a Tarragona yn Sbaen. Tua 358 rhoddodd yr ymeradwr Julian y rhan fwyaf o dalaith Gallia Belgica iddynt. Yn raddol daethant yn feistri ar y rhan fwyaf o ran ogleddol Gâl.

Y frenhinllin gyntaf i lywodraethu’r Ffranciaid oedd y Merofingiaid. Dywedir fod y brenhinoedd Merofingaidd yn hannu o lwyth y Sicambri. Fodd bynnag nid y brenin oedd a’r grym mewn gwirionedd ond Maer y Llys. Y mwyaf enwog o’r rhain oedd Siarl Martel, a enillodd fuddugoliaeth enwog dros y Mwslimiaid ym Mrwydr Tours.

Yn 751 diorseddwyd yr olaf o’r brenhinoedd Merofingaidd, a daeth mab Siarl Martel, Pepin Fychan, yn frenin fel y cyntaf o linach y Carolingiaid. Adeiladodd mab Pepin, Siarlymaen, ymerodraeth oedd yn ymestyn dros ran helaeth o Ewrop. O 772 ymlaen, gorchfygodd y Sacsoniaid, ymgorfforodd eu tiroedd yn ei ymerodraeth a gorfododd hwynt i ddod yn Gristionogion. Concrodd y Lombardiaid yn 773-774, ac ychwanegodd ogledd yr Eidal at ei feddiannau. Ar ddydd Nadolig 800 coronwyd Siarlymaen yn “Ymerawdwr y Rhufeiniaid” gan y Pab Leo III.

Pan fu farw Siarlymaen yn 814 yn Aachen, dilynwyd ef gan ei fab Louis Dduwiol, yr unig un o'i feibion oedd wedi goroesi ei dad. Ar farwolaeth Louis yn 840, bu ymladd rhwng ei feibion, ac yn 843 rhannwyd y deyrnas rhyngddynt yn ôl Cytundeb Verdun.

Rhaniad yr ymerodraeth rhwng tri mab Louis Dduwiol
En otros idiomas
Afrikaans: Franke
Alemannisch: Franken (Volk)
aragonés: Francos
Ænglisc: Francan
العربية: فرنجة
مصرى: فرانكس
asturianu: Pueblu francu
azərbaycanca: Franklar
беларуская: Франкі
български: Франки
brezhoneg: Franked
bosanski: Franci
català: Francs
čeština: Frankové
Чӑвашла: Франксем
dansk: Frankere
Ελληνικά: Φράγκοι
English: Franks
Esperanto: Frankoj
español: Pueblo franco
eesti: Frangid
euskara: Frankoak
فارسی: فرانک‌ها
suomi: Frankit
føroyskt: Frankar
français: Francs
Nordfriisk: Franken (fulk)
Frysk: Franken
Gaeilge: Na Frainc
galego: Francos
עברית: פרנקים
hrvatski: Franci
magyar: Frankok
Bahasa Indonesia: Suku Franka
íslenska: Frankar
italiano: Franchi
日本語: フランク人
ქართული: ფრანკები
қазақша: Франктер
한국어: 프랑크인
kurdî: Frank
Latina: Franci
lumbaart: Franch (pòpol)
lietuvių: Frankai
latviešu: Franki
македонски: Франки
монгол: Франк
Bahasa Melayu: Orang Frank
Nedersaksies: Franken
Nederlands: Franken (volk)
norsk nynorsk: Frankarar
norsk: Frankere
occitan: Francs
polski: Frankowie
português: Francos
română: Franci
русский: Франки
sicilianu: Franchi
Scots: Franks
srpskohrvatski / српскохрватски: Franci
Simple English: Franks
slovenčina: Frankovia
slovenščina: Franki
српски / srpski: Франци
svenska: Franker
Kiswahili: Wafaranki
Türkçe: Franklar
українська: Франки
oʻzbekcha/ўзбекча: Franklar
Tiếng Việt: Người Frank
West-Vlams: Frankn
中文: 法蘭克人
Bân-lâm-gú: Frank lâng
粵語: 法蘭克人