Edward IV, brenin Lloegr

Edward IV, brenin Lloegr
Edward4.jpg
Ganwyd28 Ebrill 1442 Edit this on Wikidata
Rouen Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ebrill 1483 Edit this on Wikidata (40 oed)
Westminster Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
SwyddDug Iorc, brenin Lloegr, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
TadRichard o York, 3ydd dug York Edit this on Wikidata
MamCecily Neville, Duchess of York Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Woodville Edit this on Wikidata
PlantElisabeth o Efrog, Mary o York, Cecily o York, Edward V, brenin Lloegr, Margaret o York, Richard o Shrewsbury, dug cyntaf York, Anne o York, George Plantagenet, dug 1af Bedford, Catherine o York, Bridget o York, Arthur Plantagenet, is-iarll 1af Lisle, Tywysogion y Tŵr Edit this on Wikidata
TeuluMargaret of York, Elizabeth o York, duges Suffolk, Anne of York, Duchess of Exeter, Rhisiart III, brenin Lloegr, George Plantagenet, dug 1af Clarence, Edmund, Earl of Rutland Edit this on Wikidata
LlinachIorciaid Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Cnu Aur Edit this on Wikidata
Llofnod
Edward IV signature.svg

Edward IV (28 Ebrill 14429 Ebrill 1483) oedd brenin Lloegr o 3 Mawrth 1461 i 30 Hydref 1470, ac o 4 Mai 1471 hyd ei farwolaeth.

Roedd yn fab i Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog. Cafodd ei eni yn Rouen, Ffrainc. Ei wraig oedd Elizabeth Woodville.

Yng Nghymru

Pan goronwyd Edward IV yn 1461 llac oedd ei afael ar Gymru. Y de-ddwyrain yn unig oedd yn ddiogel dan awdurdod iarll Warwick a Herbert, a phrin oedd ei ddilynwyr yn y gorllewin a'r gogledd. Yn dilyn brwydr Towton, ym Mawrth 1461, dyrchafwyd Wiliam Herbert i safle uwchben pob unigolyn arall yng Nghymru: yn ustus, siambrlen, stiward a phrif fforestydd siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, gyda'i frawd Rhisiart yn ddirprwy, a chomisiynwyd Wiliam Herbert a'i frawd yng nghyfraith, Walter Devereux, i feddiannu iarllaeth Penfro a'r tiroedd a gysylltid â hi, tiroedd Siasbar Tudur a'i nai Harri Tudur. Yna meddiannodd Herbert diroedd teulu Buckingham yng Nghymru, gan gynnwys Brycheiniog a Gwynllwg. Ffodd Siasbar Tudur, hanner brawd Harri VI, rhagddynt i'r Gogledd, a syrthiodd castell Penfro i ddwylo Herbert. Yno roedd y bachgen pedair oed, Harri Tudur, mab i frawd Siasbar. Cymerwyd ef gan Herbert i Raglan ac yno y magwyd Harri Tudur hyd 1469. Trechwyd Siasbar ym mrwydr Twthill ger Caernarfon, a ffôff am ei fywyd i Iwerddon.

Prin oedd awdurdod Edward IV yn nhair sir y Gogledd, a bu raid i Herbert ddod â byddin anferthol i Wynedd cyn llwyddo i ddarostwng y trigolion. Ildiodd castell Harlech iddo ar 14 Awst, a chanodd Guto'r Glyn gywydd i longyfarch Herbert, gan ofyn ar yr un gwynt iddo ddangos trugaredd tuag at uchelwyr Gwynedd.

En otros idiomas
беларуская: Эдуард IV
български: Едуард IV
čeština: Eduard IV.
Deutsch: Eduard IV.
eesti: Edward IV
suomi: Edvard IV
français: Édouard IV
हिन्दी: एडवर्ड IV
hrvatski: Edvard IV.
հայերեն: Էդուարդ IV
Bahasa Indonesia: Edward IV dari Inggris
íslenska: Játvarður 4.
ქართული: ედუარდ IV
lietuvių: Eduardas IV
latviešu: Eduards IV Jorks
македонски: Едвард IV
Bahasa Melayu: Edward IV dari England
русский: Эдуард IV
संस्कृतम्: एडवर्ड ४
srpskohrvatski / српскохрватски: Edward IV od Engleske
Simple English: Edward IV of England
slovenščina: Edvard IV. Angleški
српски / srpski: Едвард IV Јорк
Türkçe: IV. Edward
українська: Едуард IV
Tiếng Việt: Edward IV của Anh