Difodiant

Difodiant yw diwedd bywyd organeb byw, grwp o organebau byw (tacson) neu rywogaeth, fel arfer. Gellir diffinio difodiant o ran amser fel y foment honno pan fo aelod ola'r rhywogaeth yn marw. Defnyddir y term gan fwyaf o fewn daeareg, bywydeg ac ecoleg. Ar adegau, ceir hyd i rywogaeth a gredwyd oedd wedi difodi; mae'n ailymddangos, yn dal yn fyw a gelwir hon yn rhywogaeth Lasarus, oherwydd i Lasarus, yn ôl y chwedl atgyfodi.

Cred gwyddonwyr fod dros 99% o'r holl rywogaethau sydd erioed wedi byw ar wyneb Daear wedi difodi; mae hyn yn gyfystyr â phum biliwn o rywogaethau.[1][2][3] Mewn cymhariaeth, amcangyfrifir fod rhwng 10 miliwn a 14 miliwn o rywogaethau'n fyw heddiw, gyda dim ond 1.2 miliwn ohonynt wedi eu cofnodi.[4]

Gellir dweud i raddau fod difodiant yn broses cwbwl naturiol o ran esblygiad. Y ddau reswm mwyaf dros ddifodiant yw: yn gyntaf, amgylchiadau sy'n newid yn sydyn e.e. daeargrynfeydd ysgytwol neu newid tymheredd ac yn ail cystadleuaeth gan rywogaeth arall.[5] Ar gyfartaledd mae rhywogaeth yn difodi wedi 10 miliwn o fodolaeth, er bod yr hyn a elwir yn 'ffosiliau byw' yn parhau am gannoedd o filiynau rhagor o fodolaeth, heb fawr o newid esblygol, morffolegol.[3]

En otros idiomas
Afrikaans: Uitsterwing
العربية: انقراض
مصرى: انقراض
asturianu: Estinción
azərbaycanca: Nəsil kəsilməsi
башҡортса: Юҡҡа сығыу
беларуская: Выміранне
български: Измиране
বাংলা: বিলুপ্তি
bosanski: Izumiranje
català: Extinció
čeština: Vymírání
dansk: Udryddelse
Deutsch: Aussterben
English: Extinction
Esperanto: Formorto
español: Extinción
فارسی: انقراض
suomi: Sukupuutto
galego: Extinción
ગુજરાતી: વિલુપ્ત જાતિ
客家語/Hak-kâ-ngî: Chhie̍t-chúng
हिन्दी: विलुप्ति
hrvatski: Izumiranje
Kreyòl ayisyen: Ekstenksyon
magyar: Kihalás
Bahasa Indonesia: Kepunahan
íslenska: Útdauði
italiano: Estinzione
日本語: 絶滅
Basa Jawa: Spesies cures
ქართული: ამოწყდომა
қазақша: Қырылу
한국어: 절멸
kurdî: Nemabûyî
kernowek: Difeudhans
Latina: Exstinctio
lietuvių: Išnykimas
latviešu: Izmiršana
Bahasa Melayu: Kepupusan
မြန်မာဘာသာ: မျိုးသုဉ်းခြင်း
Nederlands: Uitsterven
norsk nynorsk: Utdøydde artar
norsk: Utryddelse
ਪੰਜਾਬੀ: ਲੋਪ
polski: Wymieranie
português: Extinção
Runa Simi: Rikch'aq wañuy
română: Extincție
русский: Вымирание
Scots: Extinction
srpskohrvatski / српскохрватски: Izumiranje
Simple English: Extinction
slovenščina: Izumrtje
Soomaaliga: Dabar Go'
српски / srpski: Изумирање
svenska: Utdöd
Tagalog: Ekstinsiyon
Türkçe: Soy tükenmesi
татарча/tatarça: Юкка чыгу
українська: Вимирання
اردو: معدومیت
Tiếng Việt: Tuyệt chủng
中文: 绝灭
Bân-lâm-gú: Bia̍t-choa̍t
粵語: 絕種