Diego Velázquez

Diego Velázquez
Diego Velázquez Autorretrato 45 x 38 cm - Colección Real Academia de Bellas Artes de San Carlos - Museo de Bellas Artes de Valencia.jpg
Ganwyd Diego Rodriguez de Silva y Velázquez Edit this on Wikidata
6 Mehefin 1599 Edit this on Wikidata
Sevilla Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd 6 Mehefin 1599 Edit this on Wikidata
Bu farw 6 Awst 1660 Edit this on Wikidata (61 oed)
Madrid Edit this on Wikidata
Gwaith Arlunydd edit this on wikidata
Gwaith nodedig The Triumph of Bacchus, Las Meninas, Apollo in the Forge of Vulcan Edit this on Wikidata
Arddull portread Edit this on Wikidata
Priod Juana Pacheco Edit this on Wikidata

Arlunydd o Sbaen oedd Diego Rodríguez de Silva y Velázquez ( 6 Mehefin 15996 Awst 1660). Roedd yn un o arlunwyr pwysicaf ei gyfnod; ei gampwaith yw Las Meninas (1656). Bu'n ddylanwad pwysig ar arlunwyr diweddarach megis Pablo Picasso a Salvador Dalí. Ymhlith ei weithiau pwysicaf y mae: Gwener yn y Drych ( Sbaeneg: La Venus del espejo) a Chwedl Arachne ( Catalaneg: Les filadores).

Ganed ef yn Sevilla, Andalusia, Sbaen. Roedd yn fab i Juan Rodríguez de Silva, cyfreithiwr o dras Iddewid-Potiwgeaidd. Astudiodd arlunwaith dan Francisco de Herrera, yna pan oedd tua 12 oed aeth yn brentis i Francisco Pacheco yn Sevilla, lle bu am bum mlynedd. Priododd Juana Pacheco yn 1618; cawsant ddwy ferch.

Aeth i Madrid yn Ebrill 1622, gyda llythyr yn ei gyflwyno i Don Juan de Fonseca, caplan y brenin. Bu farw Rodrigo de Villandrando, prif arlunydd y llys brenhinol, yn Rhagfyr 1622. Cafodd Velázquez ei swydd wedi iddo wneud llun o'r brenin Felipe IV, a chafodd arian i symud ei deulu i Madrid. Bu'n byw yno am y gweddill o'i fywyd, heblaw am flwyddyn o hanner yn byw yn yr Eidal o 1629. Cafodd hyn gryn ddylanwad ar ei arddull. Bu ar ymweliad a'r Eidal eto yn 1649, gan ddychwelyd yn 1651.

Dylanwad

Dylanwadodd Velázquez yn aruthrol ar y paentwyr a ddaeth ar ei ôl. Caiff ei adnabod fel y prif ddylanwad ar Édouard Manet - ffaith sy'n goblyn o bwysig pan ystyriwn mai Manet yw'r brif bont rhwng realaeth ac argraffiadaeth (impressionism). Galwodd Manet ef yn "baentiwr y paentwyr" a broliodd yn fwy na dim ei ddefnydd o'i frws cyflym, dewr mewn cyfnod Barocaidd o ddefnydd cynnil, perffaith, academaidd. Gellir gweld ei ddylanwad yn y modd y cafodd ei waith Gwener yn y Drych ei gopio, yn enwedig gan Édouard Manet yn ei baentiad olew Yr Olympia, yn 1863 ac arlunwyr eraill megis Jean Auguste Dominique Ingres a Paul-Jacques-Aimé Baudry. [1]

En otros idiomas
Afrikaans: Diego Velázquez
aragonés: Diego Velázquez
asturianu: Diego Velázquez
Aymar aru: Diego Velásquez
azərbaycanca: Dieqo Velaskes
башҡортса: Диего Веласкес
žemaitėška: Diegs Velaskesos
беларуская: Дыега Веласкес
беларуская (тарашкевіца)‎: Дыега Вэляскес
български: Диего Веласкес
brezhoneg: Diego Velázquez
čeština: Diego Velázquez
Esperanto: Diego Velázquez
estremeñu: Diego Velázquez
føroyskt: Diego Velázquez
français: Diego Vélasquez
贛語: 韋拿克
Fiji Hindi: Diego Velázquez
interlingua: Diego Velázquez
Bahasa Indonesia: Diego Velázquez
íslenska: Diego Velázquez
Qaraqalpaqsha: Diego Velázquez
Адыгэбзэ: Диего Веласкес
kalaallisut: Diego Velázquez
Кыргызча: Веласкес
Lëtzebuergesch: Diego Velázquez
latviešu: Djego Velaskess
олык марий: Веласкес, Диего
македонски: Диего Веласкез
Bahasa Melayu: Diego Velázquez
Mirandés: Diego Velázquez
norsk nynorsk: Diego Velázquez
Kapampangan: Diego Velázquez
Piemontèis: Diego Velázquez
português: Diego Velázquez
Runa Simi: Diego Velázquez
tarandíne: Diego Velázquez
русиньскый: Дієґо Веласкес
саха тыла: Веласкес Диего
srpskohrvatski / српскохрватски: Diego Velázquez
Simple English: Diego Velázquez
slovenščina: Diego Velázquez
Soomaaliga: Diego Velázquez
српски / srpski: Дијего Веласкез
Kiswahili: Diego Velázquez
татарча/tatarça: Diego Velaskes
українська: Дієго Веласкес
oʻzbekcha/ўзбекча: Diego Velázquez
vepsän kel’: Velaskes Diego
Tiếng Việt: Diego Velázquez
მარგალური: დიეგო ველასკესი
Bân-lâm-gú: Diego Velázquez