Didcot

Didcot
Didcot, town centre.jpg
Canol y dref, Didcot
Didcot is located in Y Deyrnas Unedig
Didcot

 Didcot yn: Y Deyrnas Unedig
Poblogaeth 26,920 (2011)[1]
Plwyf Didcot
Swydd Swydd Rydychen
Rhanbarth
Gwlad Lloegr
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost Didcot
Cod deialu 01235
Senedd yr Undeb Ewropeaidd De-ddwyrain Lloegr
Senedd y DU Wantage
Rhestr llefydd: y DU • Lloegr •

Tref yn Nyffryn Tafwys, yn Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr, ydy Didcot. Saif y dref tua 10 milltir i'r de o ddinas Rhydychen.

Mae Caerdydd 134.6 km i ffwrdd o Didcot ac mae Llundain yn 79.4 km. Y ddinas agosaf ydy Rhydychen sy'n 17 km i ffwrdd.

Hanes

Mae Didcot yn dyddio o Oes yr Haearn. Codwyd bryngaer ar y grib yn y dref, efo'r wern o'i chwmpas. Ceisiodd y Rhufeinwyr sychu'r wern gan gloddio ffos trwy ardal i'r gogledd o'r dref. Yn y 1200au y mae'r tro cyntaf yr ymddangosir Didcot mewn cofnodion hanesyddol, fel Dudcott. Cadwodd y dref boblogaeth o tua 100 o bobl dros ganrifoedd, tra bod rhai bentrefi cyfagos, sydd yn fychain o'u cymharu â Didcot modern, yn fwy.

Adeiladwyd rheilffordd rhwng Llundain a Bryste trwy Didcot yn 1839, ac agorwyd yr orsaf yn 1844. Erbyn hyn, mae'r brif reilffordd sy'n rhedeg trwy Didcot yn gwasanaethu De Cymru hefyd, ac yma mae llinell arall, i Rydychen a Chanolbarth Lloegr, yn gwahanu ohono. Elwir yr orsaf yn Didcot Parkway erbyn hyn.

Roedd y dref yn swydd Berkshire, nes i ffiniau'r swyddi gael eu hail-drefnu yn 1974.

Gorsaf drenau Didcot Parkway, gan edrych tua'r gorllewin
En otros idiomas
تۆرکجه: دیدکات
Deutsch: Didcot
English: Didcot
español: Didcot
فارسی: دیدکات
suomi: Didcot
français: Didcot
Gaeilge: Didcot
italiano: Didcot
Latina: Didcot
Nederlands: Didcot
norsk nynorsk: Didcot
polski: Didcot
română: Didcot
русский: Дидкот
Scots: Didcot
Simple English: Didcot
svenska: Didcot
українська: Дідкот
Tiếng Việt: Didcot
Volapük: Didcot
中文: 迪德科特