David Lloyd George

David Lloyd George
David Lloyd George

Cyfnod yn y swydd
7 Rhagfyr 1916 – 22 Hydref 1922
RhagflaenyddHerbert Asquith
OlynyddAndrew Bonar Law

Canghellor y Trysorlys
Cyfnod yn y swydd
12 Ebrill 1908 – 25 Mai 1915
RhagflaenyddHerbert Asquith
OlynyddHerbert Asquith

Geni17 Ionawr 1863
Manceinion, Lloegr
Marw26 Mawrth 1945(1945-03-26) (82 oed)
Llanystumdwy, Cymru
EtholaethBwrdeistrefi Caernarfon
Plaid wleidyddolRhyddfrydol

Roedd David Lloyd George, Iarll 1af Lloyd George o Ddwyfor (17 Ionawr 186326 Mawrth 1945), a adnabyddid fel "y Dewin Cymreig", yn wleidydd Cymreig ac yn Brif Weinidog ar y Deyrnas Unedig rhwng Rhagfyr 1916 a Hydref 1922. Hyd yma, ef yw'r unig Gymro i ddal y swydd; y Gymraeg oedd ei famiaith.[1] Caiff ei gydnabod fel pensaer y wladwriaeth les[2]. Fe oedd prif weinidog Rhyddfrydol olaf y DU. Ym mlwyddyn olaf ei oes cafodd ei ddyrchafu i fod yn iarll gan y brenin Siôr VI.

Ym Manceinion, Lloegr, y cafodd ei eni. Treuliodd ei blentyndod ym mhentref Llanystumdwy, Eifionydd, o 1864 hyd 1880, lle cafodd ei fagu ar aelwyd Gymraeg gan ei fam weddw ac ewythr. Daeth yn gyfreithiwr gyda phractis yn Nghricieth erbyn 1885.

Cafodd ei ethol i gynrychioli Caernarfon yn is-etholaeth 1890 ar 10 Ebrill 1890. Roedd eisoes yn adnabyddus am iddo leisio achosion radicalaidd dro ar ôl tro. Yn yr 1890au, gyda mudiad gwladgarol Cymru Fydd ar ei anterth, defnyddiodd ei safle fel AS i ddadlau'n frwd yn Senedd San Steffan dros achosion fel Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru a hunanlywodraeth ("Home Rule" neu "Ymraeolaeth") i Gymru, yr Alban ac Iwerddon. Ond daeth trai ar ffawd Cymru Fydd a throes Lloyd George fwyfwy at wleidyddiaeth Brydeinig gan godi yn rhengoedd y Blaid Ryddfrydol. Gwrthwynebodd y rhyfel gwladychol yn Ne Affrica a adnabyddir fel Rhyfel y Boer ac am gyfnod bu'n amhoblogaidd yn Lloegr ond ni chollodd ei gefnogaeth frwd yng Nghymru, yn enwedig am iddo aros yn gefnogol i Ddatgysylltu'r Eglwys.

Ym 1905 cafodd ei benodi yn Llywydd y Bwrdd Masnach a daeth yn Ganghellor y Trysorlys yn 1908. Cyflwynodd bensiwn i'r henoed ac yswiriant iechyd cenedlaethol.[3]

Roedd Lloyd George fel aelod pwysig o’r llywodraeth ac wedyn yn Brif Weinidog, yn darged cyson ar gyfer y protestiadau y Swffragetiaid a oedd yn galw am yr hawl i bleidleisio i ferched. Gweiddwyd Swffragetiaid ar draws ei areithiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ym Mhafiliwn Caernarfon ble cafodd y protestwyr, dynion a merched eu curo gan y dorf.[4] Ym 1912 roedd protest enwocaf y Swffragetiaid yng Nghymru pan ddychwelodd Lloyd George i’w bentref genedigol Llanystumdwy i agor neuadd newydd y pentref. Gwaeddodd y Swffragetiaid ar draws ei araith. Cafodd y merched eu llusgo o’r neuadd yn filain iawn ac eu curo. Cafodd un o’r merched ei dillad wedi’u tynnu a bron taflwyd un arall oddi ar y bont yr Afon Dwyfor gerllaw i’r creigiau.[5]

Y Rhyfel Mawr

Pan gyhoeddwyd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 petrusodd Lloyd George cyn ei gefnogi, ond unwaith iddo benderfynu ei fod yn rhyfel angenrheidiol bu'n gefnogwr brwd: mae rhai haneswyr yn gweld hyn fel y cyfnod y bradychodd Lloyd George ei egwyddorion trwy gefnogi rhyfel imperialaidd a rhoi pellter mawr rhyngddo a'r syniad o gael hunanlywodraeth i Gymru. Bu'n Weinidog dros Arfau o 1915 hyd 1916 ac yn Rhagfyr 1916 daeth yn Brif Weinidog gyda phwerau eang iawn am ei fod yn adeg rhyfel.

En otros idiomas
azərbaycanca: Devid Lloyd Corc
беларуская: Дэвід Лойд Джордж
Bahasa Indonesia: David Lloyd George
македонски: Дејвид Лојд Џорџ
Plattdüütsch: David Lloyd George
Nederlands: David Lloyd George
norsk nynorsk: David Lloyd George
português: David Lloyd George
srpskohrvatski / српскохрватски: David Lloyd George
Simple English: David Lloyd George
slovenčina: David Lloyd George
српски / srpski: Дејвид Лојд Џорџ
Tiếng Việt: David Lloyd George
粵語: 勞萊佐治