Cymdeithas yr Iesu

Sêl Cymdeithas yr Iesu

Urdd o fewn yr Eglwys Gatholig yw Cymdeithas yr Iesu (Societas Jesu, S.J.). Gyda bron 19,000 o aelodau, mae ymhlith y mwyaf o'r urddau Catholig. Cyfeirir at yr aelodau fel Jeswitiaid. Amcanion yr urdd yw efengylu'r byd ac amddiffyn y ffydd Gatholig. Mae'r cyfnod o hyfforddi cyn dod yn aelod llawn yn 12 hyd 14 mlynedd.

Fe'i sefydlwyd yn 1534, yn ninas Paris, gan Sant Ignatius Loyola. Ar 27 Medi 1540, derbyniwyd y gymdeithas yn swyddogol gan y Pab Pawl III. Erbyn marwolaeth Ignatius yn 1556, roedd ganddi 1,000 o aelodau. Bu'n cenhadu mewn nifer fawr o wledydd, yn cynnwys India, lle cafodd gryn lwyddiant yn Goa, a Tsieina. Un o'i meysydd cenhadol mwyaf oedd De America, lle sefydlwyd nifer fawr o genhadaethau i efengylu'r trigolion brodorol, ac hefyd i'w hamddiffyn rhag rhai o'r Ewropeaid oedd yn dymuno eu troi yn gaethweision. Gwnaeth hyn y Gymdeithas yn amhoblogaidd gyda rhai o'r awdurdodau. Yn 1773, dan bwysau gan frenhinoedd Sbaen, Portiwgal a Ffrainc, cyhoeddodd y Pab Clemens XIV fod yr urdd yn cael ei diddymu. Parhaodd yn weithgar yn nwyrain Ewrop a Rwsia, gan i Ffrederic Fawr, brenin Prwsia, a Catrin Fawr, ymerodres Rwsia, wrthod diddymu'r urdd. Yn 1814, cyhoeddodd y Pab fod y gwaharddiad ar yr urdd yn cael ei ddiddymu.

  • aelodau enwog

Aelodau enwog

  • Franciscus Xaverius (Ffransis Xavier)
  • Juluan Maner, "Apostol Llydaw"
En otros idiomas
Alemannisch: Jesuiten
العربية: يسوعيون
azərbaycanca: Yezuitlər ordeni
Boarisch: Jesuitn
Bikol Central: Heswita
беларуская: Езуіты
беларуская (тарашкевіца)‎: Езуіты
български: Йезуитски орден
বিষ্ণুপ্রিয়া মণিপুরী: জেসুইটাস
bosanski: Isusovci
Чӑвашла: Иезуитсем
Deutsch: Jesuiten
Esperanto: Jezuitoj
eesti: Jesuiidid
suomi: Jesuiitat
Frysk: Jezuïten
Gaeilge: Cumann Íosa
Gàidhlig: Comann Iosaid
Avañe'ẽ: Hesu Irũ Aty
עברית: ישועים
hrvatski: Družba Isusova
Kreyòl ayisyen: Jezwit
interlingua: Societate de Jesus
Bahasa Indonesia: Yesuit
íslenska: Jesúítareglan
日本語: イエズス会
Basa Jawa: Yésuit
қазақша: Иезуиттер
한국어: 예수회
Lëtzebuergesch: Jesuiten
Limburgs: Jezuïet
lietuvių: Jėzuitai
latgaļu: Jezuiti
latviešu: Jezuīti
Malagasy: Zezoita
македонски: Исусовци
മലയാളം: ഈശോസഭ
Bahasa Melayu: Persatuan Jesus
Nederlands: Jezuïeten
norsk nynorsk: Jesuittordenen
polski: Jezuici
Piemontèis: Companìa ëd Gesù
português: Companhia de Jesus
română: Ordinul iezuit
русский: Иезуиты
sardu: Gesuitas
sicilianu: Gesuiti
srpskohrvatski / српскохрватски: Isusovci
Simple English: Society of Jesus
slovenščina: Družba Jezusova
shqip: Jezuitët
српски / srpski: Исусовци
svenska: Jesuitorden
Kiswahili: Shirika la Yesu
தமிழ்: இயேசு சபை
Türkçe: Cizvitler
українська: Товариство Ісуса
Tiếng Việt: Dòng Tên
吴语: 耶穌會
中文: 耶稣会
Bân-lâm-gú: Iâ-so͘-hoē
粵語: 耶穌會