Crys Melyn

Y crys melyn

Y Crys Melyn ( Ffrangeg: Maillot Jaune) yw'r crys a wisgir gan arweinydd dosbarthiad cyffredinol sawl ras seiclo, y mwyaf o nôd, a'r cyntaf i'w gyflwyno yw'r Tour de France. Mae'n galluogi i'r reidiwr sy'n arwain ras sawl cymal i allu gael ei adnabod yn hawdd yng nghanol y grŵp.

Sut mae'n cael ennill

Penderfynir enillydd y Tour de France, a rasys seiclo sawl cymal eraill, gan weithio allan cyfanswm yr amser a gymerodd reidiwr i gwblhau pob cymal. Gall amser gael ei ychwanegu neu'i dynnu o'r cyfanswm fel bonws am ennill cymal neu gyrraedd brig mynydd gyntaf, neu fel cosb am dorri'r rheolau. Y reidiwr sydd â'r cyfanswm lleiaf o amser ar ddiwedd pob cymal sy'n derbyn y crys melyn mewn seremoni, ac mae ganddo'r hawl i wisgo'r crys yn y cymal canlynol. [1] Y reidiwr sy'n derbyn y crys melyn ar ôl y cymal olaf, yw enillydd cyffredinol y ras.

Nid yw'r crys yn felyn ar gyfer pob ras, gan y dewisir y lliw gan drefnwyr y ras. Er enghraifft, mae'r Tour of California a'r Vuelta a España yn defnyddio crys lliw aur, mae'r Giro d'Italia yn defnyddio pinc, ac mae'r Tour Down Under yn defnyddio lliw ocr.

En otros idiomas
العربية: قميص أصفر
беларуская: Жоўтая майка
brezhoneg: Krez melen
català: Mallot groc
čeština: Žlutý trikot
Deutsch: Gelbes Trikot
euskara: Maillot horia
français: Maillot jaune
hrvatski: Žuta majica
Lëtzebuergesch: Gielen Trikot
português: Camisa amarela
русский: Жёлтая майка
Simple English: Yellow jersey
slovenčina: Žlté tričko
slovenščina: Rumena majica
svenska: Ledartröja