Conswl Rhufeinig

Conswl (talfyriad. cos.; lluosog Ladin consules) oedd swydd wleidyddol etholedig uchaf Gweriniaeth Rhufain a swydd benodedig yn ddiweddarach dan yr Ymerodraeth Rufeinig. Yng nghyfnod y Weriniaeth, y conswliaid oedd y barnwyr sifil a milwrol uchaf, gan gyflawni eu dyletswyddau fel pennau'r wladwriaeth a'r llywodraeth fel ei gilydd. Fodd bynnag, dan yr Ymerodraeth roeddynt yn ffigyrau symbolaidd yn bennaf, cysgod o'r hyn a fuasant dan y Weriniaeth, heb fawr grym nac awdurdod.

Pan fu terfyn ar linell brenhinoedd Rhufain yn 509 CC, rhoddwyd yr enw 'conswl' ar y ddau braetor a etholwyd. Yn ôl traddodiad roeddynt i gyd yn aelodau o'r dosbarth uchelwrol (patricii) tan 367 CC pan basiwyd deddf Lex Licinia Sextia a ganiatai fod un o'r conswliaid yn aelod o'r "werin" ( plebs: h.y. heb fod yn perthyn i deulu uchelwrol). Y flwyddyn wedyn etholwyd y Conswl Lucius Sextius fel y conswl plebaidd cyntaf. Parhaodd swydd y conswl, mewn enw o leiaf, hyd OC 541.

Enwyd y flwyddyn ar ôl enwau'r conswliaid yn swyddogol (cyfochrog â'r system rhifol ab urbe condita, calendr seiliedig ar ddyddiad traddodiadol sefydlu Rhufain gan Romulus). Er enghraifft, yr enw ar 59 CC oedd "Conswliaeth Cesar a Bibulus," am mai (Gaius) Iŵl Cesar a Marcus Calpurnius Bibulus oedd y ddau gonswl y flwyddyn honno - ond roedd yn hen jôc yn Rhufain ei galw yn flwyddyn "Conswliaeth Gaius ac Iŵl" gan fod Iŵl Cesar wedi dominyddu ei gyd-gonswl cymaint.


Rhufain hynafol She-wolf suckles Romulus and Remus.jpg
Teyrnas Rhufain | Gweriniaeth Rhufain | Yr Ymerodraeth Rufeinig | Conswl Rhufeinig


She-wolf suckles Romulus and Remus.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy
En otros idiomas
Afrikaans: Konsul (Rome)
Alemannisch: Consulat
asturianu: Cónsul romanu
azərbaycanca: Konsul (Qədim Roma)
brezhoneg: Konsul
bosanski: Konzul
català: Cònsol romà
čeština: Římský konzul
dansk: Consul
Deutsch: Consulat
English: Roman consul
español: Cónsul romano
فارسی: کنسول روم
Frysk: Konsul
hrvatski: Rimski konzul
magyar: Consul
Հայերեն: Կոնսուլ
interlingua: Consule
Bahasa Indonesia: Konsul Romawi
Ido: Konsulo
日本語: 執政官
ქართული: კონსული
한국어: 집정관
Kurdî: Konsul
Latina: Consul
lietuvių: Konsulas (Roma)
latviešu: Konsuls (Roma)
македонски: Римски конзул
Bahasa Melayu: Tribun konsul
Plattdüütsch: Kunsel (Rom)
Nederlands: Consul (Rome)
norsk nynorsk: Romersk konsul
română: Consul
srpskohrvatski / српскохрватски: Konzul
Simple English: Roman consul
slovenščina: Rimski konzul
српски / srpski: Конзул (магистрат)
svenska: Konsul (Rom)
Tagalog: Konsulado
Türkçe: Konsül (Roma)
татарча/tatarça: Konsul
oʻzbekcha/ўзбекча: Konsul
Tiếng Việt: Quan chấp chính