Brian Boru

Brian Boru, llun dychmygol

Uchel Frenin Iwerddon oedd Brian mac Cennétig, Brian Bóruma neu Brian Boru (c. 941 - 23 Ebrill 1014).

Roedd yn fab i Cennétig mac Lorcain. Gwnaeth ei hun yn frenin Munster, yna concrodd Leinster i ddod a'r cyfan o dde Iwerddon dan ei reolaeth. Daeth yn Uchel Frenin yn 1002, pan gydnabyddwyd ef gan Máel Sechnaill mac Domnaill, brenin yr Uí Néill.

Roedd Iwerddon wedi ei rhannu yn nifer o deyrnasoedd annibynnol; a symbolaidd oedd swyddogaeth Uchel Frenin Iwerddon yn bennaf. Ceisiodd Brian Boru newid hyn, a gwneud ei hun yn wir reolwr Iwerddon. Ymladdwyd Brwydr Clontarf ar Ddydd Gwener y Groglith (23 Ebrill), 1014, rhwng Brian a byddin Brenin Leinster, Máel Mórda mac Murchada, oedd yn cynnwys llawer o Lychlynwyr Dulyn dan arweiniad cefnder Máel Mórda , Sigtrygg Farf Sidan (un o hynafiaid Gruffudd ap Cynan). Bu byddin Brian Boru yn fuddugol, ond lladdwyd ef ei hun gan nifer fychan o Lychlynwyr a ddaeth ar draws ei babell yn ddamweiniol wrth ffoi o faes y gad. O ganlyniad, ymrannodd Iwerddon yn nifer o deyrnasoedd annibynnol eto.

En otros idiomas
العربية: بريان بورو
català: Brian Boru
čeština: Brian Bóruma
dansk: Brian Boru
Deutsch: Brian Boru
English: Brian Boru
español: Brian Boru
euskara: Brian Boru
suomi: Brian Boru
français: Brian Boru
galego: Brian Boru
italiano: Brian Boru
Bahasa Melayu: Brian Boru
Nederlands: Brian Boru
norsk nynorsk: Brian Boru
norsk: Brian Boru
occitan: Brian Boru
português: Brian Boru
русский: Бриан Бору
Scots: Brian Boru
srpskohrvatski / српскохрватски: Brian Boru
slovenčina: Brian Boru
slovenščina: Brian Boru
српски / srpski: Брајан Бору
svenska: Brian Boru
Türkçe: Brian Boru
українська: Бріан Боройме