Arunachal Pradesh

Arunachal Pradesh

Mae Arunachal Pradesh (Hindi: अरुणाचल प्रदेश Aruṇācal Pradeś) yn dalaith yng ngogledd-ddwyrain India. Er bod Tsieina hefyd yn hawlio'r diriogaeth yma, ac weithiau'n cyfeirio ati fel "De Tibet", mae'r cyfan ym meddiant India. Mae Arunachal Pradesh yn ffinio a Bhwtan yn y gorllewin, a Tsieina yn y gogledd ac a Myanmar yn y dwyrain. Yn y gogledd mae'n ymestyn i fynyddoedd yr Himalaya, tra mae dyffryn Afon Brahmaputra yn y de. Daeth yn dalaith ar 20 Chwefror 1987.

Itanagar yw prifddinas y dalaith. Roedd y boblogaeth yn 1,097,968 yn 2001 gyda chanran llythrennedd o 54.74%. Mae 65% o'r boblogaeth yn perthyn i tua 20 o grwpiau ethnig o darddiad Tibetaidd a Thai-Bwrmaidd; tra mae'r 35% arall wedi mewnfudo, yn enwedig o rannau eraill o Inia ac o Bangladesh. Y prif lwythau yw'r Adi, Nishi, Monpa ac Apatani. Mae 36% o'r boblogaeth yn ddilynwyr Animistiaeth, 37% yn ddilynwyr Hindwaeth, 13% yn ddilynwyr Bwdhaeth ac 13% yn Gristionogion.


Styago la Indiyako, prinjardo andar 22 Yuli, 1947.
Taleithiau a thiriogaethau India
TaleithiauArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJammu a KashmirJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
TiriogaethauYnysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar HaveliTiriogaeth Genedlaethol Delhi • Daman a Diu • Lakshadweep • Puducherry (Pondicherry)
En otros idiomas
беларуская: Аруначал-Прадэш
беларуская (тарашкевіца)‎: Аруначал-Прадэш
български: Аруначал Прадеш
বিষ্ণুপ্রিয়া মণিপুরী: অরুণাচল প্রদেশ
Nordfriisk: Arunachal Pradesh
गोंयची कोंकणी / Gõychi Konknni: अरुणाचल प्रदेश
Fiji Hindi: Arunachal Pradesh
hornjoserbsce: Arunačal Pradeš
Bahasa Indonesia: Arunachal Pradesh
Qaraqalpaqsha: Arunachal Pradesh
कॉशुर / کٲشُر: اروناچل پردیش
Lëtzebuergesch: Arunachal Pradesh
لۊری شومالی: آروناچال پئرادئش
македонски: Аруначал Прадеш
Bahasa Melayu: Arunachal Pradesh
नेपाल भाषा: अरुणाचल प्रदेश
Nederlands: Arunachal Pradesh
norsk nynorsk: Arunachal Pradesh
Kapampangan: Arunachal Pradesh
português: Arunachal Pradesh
srpskohrvatski / српскохрватски: Arunachal Pradesh
Simple English: Arunachal Pradesh
slovenčina: Arunáčalpradéš
српски / srpski: Аруначал Прадеш
Türkmençe: Arunaçal Pradeş
українська: Аруначал-Прадеш
oʻzbekcha/ўзбекча: Arunachal-Pradesh
Tiếng Việt: Arunachal Pradesh
Bân-lâm-gú: Arunachal Pradesh