Altocumulus lenticularis

Cwmwl Altocumulus lenticularis dros Harold's Cross Dulyn, Iwerddon 30-6-15

Perthynas agos i'r cymylau traeth awyr yw yr hyn a elwir yn gymylau gwynt (Altocumulus lenticularis).

Disgrifiad

Maent yn hawdd i'w hadnabod am eu bod ar ffurf lens, cneuen almon neu bysgodyn – sy'n cyfri am eu henw llafar 'pysgod awyr'. Ffurfir cymylau lenticularis pan gaiff yr aer ei godi i'r entrychion gan wynt cryf dros fryn neu fynydd.

Bydd y pysgod lenticularis yn ffurfio ar frig ton o aer yn uchel yn yr awyr a pheth pellter yng nghysgod neu y tu ôl i'r mynydd. Maent yn ymddangos fel eu bod yn aros yn eu hunfan ac i'w gweld yn weddol gyffredin mewn ardaloedd mynyddig fel Cymru. Am y gallant fod yn yn berffaith grwn, weithiau'n unigol ac weithiau'n glwstwr fel nifer o grempogau neu blatiau ar bennau ei gilydd, fe'u camgymerwyd, o bryd i'w gilydd, gan rai am soseri ehedog o'r gofod.

En otros idiomas
العربية: سحاب عدسي
asturianu: Nube lenticular
čeština: Lenticularis
Deutsch: Lenticularis
español: Nube lenticular
فارسی: عدسگون
galego: Lenticularis
日本語: レンズ雲
한국어: 렌즈운
português: Nuvem lenticular
Simple English: Lenticular cloud
svenska: Lenticularis
中文: 荚状云